Showing 2 results

Archival description
Morris, John Meirion, 1936-2020
Print preview View:

Hugh Griffith

Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).

Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].

Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].

Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).

Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).

Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).

Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].

Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).

Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.

Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers

  • GB 0210 JMEIRMOR
  • Fonds
  • 1960[x2020]

Papurau'r cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris (1936-2020), sy'n ymwneud â gwahanol agweddau o'i fywyd proffesiynol, o gychwyn ei yrfa fel athro newydd-gymwysedig hyd flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r eitemau yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'i gomisiynau cerflunwaith; ei gyhoeddiadau, megis A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); erthyglau a ysgrifenwyd a darlithoedd a draddodwyd ganddo; ei waith gyda'r cyfryngau, yr Eisteddfod Genedlaethol, cymdeithas Gweled ac â phrosiect Grŵp Glynllifon; a'r ohebiaeth a anfonwyd ato gan sefydliadau Cymreig a chan gyfeillion, cydnabod ac edmygwyr. Ceir nodiadau ar gynnwys rhai o'r eitemau yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. = Papers of the sculptor, draughtsman and teacher John Meirion Morris (1936-2020), which relate to various aspects of his professional life from his early career as a newly-qualified teacher to his final years. The items include material relating to John Meirion Morris' sculpture commissions; his publications, such as A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); articles written and lectures given by him; his collaboration with the media, the National Eisteddfod, Gweled and the Glynllifon Group project; and correspondence sent to John Meirion Morris from Welsh institutions and from friends, acquaintances and admirers. There are notes on the contents of some of the items in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Morris, John Meirion, 1936-2020