Showing 2 results

Archival description
Alun Cilie, 1897-1975
Print preview View:

Llythyrau Jones (A-D)

Llythyrau, 1915-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Cynan (2), Alun Jones (Cilie), Aneurin Jenkins-Jones (1), Bedwyr L[ewis] Jones (7), Bobi Jones (10), Dafydd [Jones, 'Isfoel'] (1), Dafydd Glyn Jones (2), [D.] Gwenallt Jones (25), gan gynnwys drafft o'i gerdd 'Rhydcymerau' er mwyn cael barn D. J. Williams ar ei ddisgrifiad o'i dad-cu Esgeirceir gan na welodd mohono erioed, [D. J.] Odwyn Jones (6), Dafydd Orwig [Jones] (3), ac englyn, [1966], gan Dic [Jones] wedi iddo brynu copi o StorĂ¯au'r Tir.

Cynan, 1895-1970

Abergwaun Group of the Peace Pledge Union

Llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, y rhan helaethaf o'r cofnodion yn llaw Dilys Williams, ysgrifennyddes yr Undeb, gydag un cofnod (dyddiedig 6 Rhagfyr 1939) wedi'i lofnodi ganddi, a chofnodion 24 Mawrth 1944 ymlaen yn llaw ei brawd, Waldo Williams. Hefyd yn y gyfrol ceir derbynebau am daliadau; rhestr o aelodau'r Undeb ym mis Gorffennaf 1939; llythyr printiedig at aelod(au)'r Undeb; a thoriad papur newydd yn cynnwys cerdd Alun J[eremiah] Jones (Alun Cilie) 'Diwedd Hydref'.