Showing 4 results

Archival description
Print preview View:

Cyfieithiad o waith Hölderlin

Drafftiau, [1950au], gan Dr J. Gwyn Griffiths o gyfieithiadau i'r Gymraeg o gerddi Almaeneg gan Hölderlin. Ysgrifennwyd y drafftiau ar lythyr (ac amlen), 13 Awst 1951, a gyfeiriwyd yn wreiddiol oddi wrth Nan Davies o'r BBC, Bangor, at Dr Griffiths (f. 86, 86a), ac ar gefn dalen o ymarferion Groegaidd (f. 87). = Drafts, [1950s], by Dr J. Gwyn Griffiths of translations into Welsh of German poems by Hölderlin. These were written on a letter (and envelope), 13 August 1951, originally sent by Nan Davies of the BBC, Bangor, to Dr Griffiths (f. 86, 86a), and on the back of a page of Greek exercises (f. 87).
Y cerddi a gyfieithiwyd yw 'Die Heimath' (f. 86), pennill cyntaf 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), a'r wyth llinell cyntaf o 'Brot und Wein', rhan IV (ff. 86a verso, 87); mae'r gwreiddiol yn The Poems of Hölderlin, cyf. gan Michael Hamburger ([Llundain], [1943]), tt. 110, 108, 118 a 164 yn eu tro. Cyhoeddwyd 'Adref' ('Die Heimath') a 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') yn J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), tt. 88-89. = The poems translated are 'Die Heimath' (f. 86), the first verse of 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), and the first eight lines of 'Brot und Wein', part IV (ff. 86a verso, 87); for the originals see The Poems of Hölderlin, trans. by Michael Hamburger ([London], [1943]), pp. 110, 108, 118 and 164 respectively. 'Adref' ('Die Heimath') and 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') were published in J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), pp. 88-89.

Griffiths, John Gwyn.

Cofiant Pennar Davies,

Papurau ymchwil Densil Morgan, [1999]-[2001], gan gynnwys llungopïau o ysgrif goffa i Pennar Davies, The Times, 1997, a chyfraniadau Pennar Davies i'r Mansfield College Magazine ac adolygiadau ganddo ac o'i weithiau yntau, ynghyd ag atgofion J. Gwyn Griffiths ar gyfer y gyfrol.

Griffiths, John Gwyn.

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, [1926]-1992, oddi wrth aelodau o'r teulu, cyfeillion a llenorion yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei yrfa fel academydd a'i ddiddordebau ysgolheigaidd ac fel bardd a nofelydd. Ymhlith yr unigolion sy'n gohebu'n gyson mae J. Gwyn Griffiths, Nathaniel Micklem, Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. LInnenberg a Geoffrey Nuttall. Neillltuwyd ffeiliau unigol hefyd i'r pedwar olaf gan Densil Morgan (gw. cyfres PD2).

Griffiths, John Gwyn.

Papurau J. Gwyn Griffiths,

  • GB 0210 JGWYNG
  • fonds
  • 1926, 1933-2001 /

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol J. Gwyn Griffiths, 1926-2001, gan gynnwys llythyrau oddi wrth gyfeillion, ysgolheigion a llenorion. Ceir papurau'n ymwneud â'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fel adolygydd llyfrau, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig Kate Bosse-Griffiths a'i frawd D. R. Griffith.

Griffiths, John Gwyn.