Showing 2 results

Archival description
Welsh language -- Political aspects. Welsh
Print preview View:

Papurau Rhieni dros Addysg Gymraeg,

  • GB 0210 RHIAEG
  • fonds
  • 1963-1988 /

Papurau'n ymwneud â Rhieni dros Addysg Gymraeg, 1963-1988, yn cynnwys copïau o gofnodion, 1963-1988, y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chofnodion y Pwyllgor Gwaith; adroddiadau blynyddol, 1984-1988; copi o gyfansoddiad y grŵp a luniwyd yn 1983; gwahanol adroddiadau a baratowyd gan y grŵp, 1983-1988; ac adroddiadau a baratowyd gan bwyllgorau sir y mudiad, 1981-1987. = Papers relating to Rhieni dros Addysg Gymraeg1963-1988, including copies of minutes, 1963-1988, of the AGMs and the executive committee minutes; annual reports, 1984-1988; a copy of the group's constitution prepared in 1983; various reports prepared by the group, 1983-1988; and reports prepared by the movement's county committees, 1981-1987.

Papurau ychwanegol gan gynnwys papurau'r Gynhadledd Flynyddol, 1983-1987; cyfrol yn cynnwys cyfansoddiad 'Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg', a chofnodion cyfarfodydd, 1963-1982; a papurau Taflen 'Holi ac Ateb'. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (Organization)

Papurau William Williams, Llangynog,

  • GB 0210 WILGYNOG
  • fonds
  • 1864-1995 /

Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifau yn dwyn y teitl 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', sy'n cyfeirio at ddefnydd o'r 'Welsh Not'; llyfrau nodiadau a gadwyd gan William Williams,1871-1888, yn cynnwys nodiadau ysgrythurol; ysgrifau heb ddyddiad; llyfr nodiadau yn cynnwys adroddiad heb ddyddiad am ordeinio'r Parch. D. R. Jones yn weinidog Bethania, Llanelli; a ffotograffau, ynghyd â manylion bywgraffyddol am aelodau o'r teulu Williams, ynghyd â darlith perthynol gan Eluned Jones. = The collection comprises writings entitled 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', referring to the use of the 'Welsh Not'; notebooks kept by William Williams, 1871-1888, containing scriptural notes; undated writings; a notebook containing an undated report of the ordination of Rev. D. R. Jones at Bethania, Llanelli; and photographs, together with biographical details, of members of the Williams family, together with a related lecture by Eluned Jones.

Williams, William, 1856-1936.