Showing 3 results

Archival description
Llandysul (Ceredigion, Wales) Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1988, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1988, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), a marwolaeth Cassie Davies (f. 36 verso), yn ogystal â nodiadau'n ymwneud â Waldo Williams (f. 106 verso); ceir hefyd gyfeiriadau at lyfrau a llawysgrifau a ganfyddwyd yn Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), a charreg ogam a siambr gladdu yng Nghapel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), and the death of Cassie Davies (f. 36 verso), together with notes relating to Waldo Williams (f. 106 verso); also included are references to books and manuscripts discovered at Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), and an ogam stone and burial chamber at Capel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso).

Papurau Ioan Cunllo

  • NLW MS 16623i-iiiE.
  • File
  • 1834-1933

Papurau, 1834-1933, yn ymwneud a'r bardd gwlad John Morris Jones (Ioan Cunllo) o Rydlewis, sir Aberteifi, wedi eu dwyn ynghyd gan Daniel Thomas, Rhydlewis. = Papers, 1834-1933, relating to the country poet John Morris Jones (Ioan Cunllo) of Rhydlewis, Cardiganshire, collected together by Daniel Thomas, Rhydlewis.
Mae'r llawysgrif yn cynnwys barddoniaeth gan Ioan Cunllo, 1834-1884 (16623iE, ff. 1-34); llythyrau iddo oddi wrth D. Silvan Evans, 1864-1869, Iago Emlyn, 1869, a Robyn Ddu Eryri, 1876 (16623iE, ff. 37-49); cerddi gan Tegid, Robyn Ddu Eryri, Einion Evans, Gwilym Gwenog ac eraill, 1843-[19 gan., ail ½] (16623iE, ff. 35-36, 50-51, 54-59); a chopi o'r Haul, 35.8 (Awst 1933), yn cynnwys erthygl ar Ioan Cunllo (16623iE, ff. 60-79); gyda rhestr, ar bedair amlen, yn disgrifio trefn flaenorol y llawysgrif (16623iE, ff. i-iv); llyfr nodiadau yn llaw Daniel Thomas yn cynnwys yn bennaf adysgrifau, [20 gan., ½ cyntaf], o farddoniaeth Ioan Cunllo (16623iiE); llyfr lloffion yn cynnwys torion papur newydd, 1849-1923, yn bennaf o farddoniaeth, llythyrau ac erthyglau Ioan Cunllo a newyddion ardal Llandysul (16623iiiE). = The manuscript contains poetry by Ioan Cunllo, 1834-1884 (16623iE, ff. 1-34); letters to him from D. Silvan Evans, 1864-1869, Iago Emlyn, 1869, and Robyn Ddu Eryri, 1876 (16623iE, ff. 37-49); poems by Tegid, Robyn Ddu Eryri, Einion Evans, Gwilym Gwenog and others, 1843-[19 cent., second ½] (16623iE, ff. 35-36, 50-51, 54-59); and a copy of Yr Haul, 35.8 (August 1933), containing an article on Ioan Cunllo (16623iE, ff. 60-79); with a list on four envelopes describing a previous arrangement of the contents (16623iE, ff. i-iv); a notebook in the hand of Daniel Thomas mainly containing transcripts, [20 cent., first ½], of Ioan Cunllo's poetry (16623iiE); a scrap book containing newspaper cuttings, 1849-1923, mainly of Ioan Cunllo's poetry and news relating to the Llandysul area (16623iiiE).

Ioan Cunllo, 1803-1884.