Print preview Close

Showing 5 results

Archival description
series Nationalism -- Wales
Advanced search options
Print preview View:

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.

Llythyrau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y prif rediad o lythyrau gan unigolion amlwg o'r byd academaidd a'r byd gwleidyddol yng Nghymru a Llydaw, yn ogystal â llythyrau oddi wrth gyn-fyfyrwyr Bebb o'r Coleg Normal a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd, ac oddi wrth aelodau o'i deulu. Mae'r llythyrau yn ymdrin, ymysg pethau eraill, gyda hanes a sefyllfa Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hanes cynnar Plaid Cymru, Y Coleg Normal, Yr Eisteddfod Genedlaethol, materion enwadol yng Nghymru, cyhoeddiadau Bebb, a phrofiad ei gyn-fyfyrwyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Plaid Cymru

Darlithoedd a phapurau'n ymwneud â hanes Plaid Cymru, 1924-1967, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid yn ne Cymru, 1924; papurau'n ymwneud â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio, 1936-1943; cofnodion cangen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, 1932-1936; a deunydd printiedig amrywiol, 1926-1965.

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.