Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin
- GB 0210 CYMRUARIANNIN
- Fonds
- 1998-2012
Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru-Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadleuaeth rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer 'Cystadleuaeth y Wladfa' yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.
Ffeil o bapurau cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol y Wladfa, Caerdydd a'r Cylch 2008.
Dwy ffeil o bapurau yn ymwneud a Chymdeithas Cymru-Ariannin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009.
Deunydd o gystadlaethau Cymdeithas Cymru-Ariannin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1995-2005.
Ffeil o bapurau yn ymwneud a Chystadleuaeth y Wladfa (Rhif 170), Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg, 2012.
Cymdeithas Cymru-Ariannin