- J3/2
- Ffeil
Cerddoriaeth argraffedig o waith J. T. Rees, gan gynnwys dalennau unigol a chyhoeddiadau printiedig.
4581 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Cerddoriaeth argraffedig o waith J. T. Rees, gan gynnwys dalennau unigol a chyhoeddiadau printiedig.
Llawysgrifau cerddoriaeth o emynau a thonau yn llaw J. T. Rees, yn ddalennau rhydd a llyfrau nodiadau, gan gynnwys traethawd ar Yr Athro David Jenkins, Aberystwyth yn un o'r llyfrau nodiadau.
Llythyrau o gydymdeimlad a dderbyniodd y teulu yn dilyn marwolaeth J. T. Rees yn 1949.
Llythyrau ar ei ben-blwydd yn 90 oed
Llythyrau, cardiau a thelegramau at J. T. Rees yn ei longyfarch ar gyrraedd 90 oed.
Llythyrau, 1913, at J. T. Rees, wedi'u pastio i lyfr ysgrifennu. Mae'r llythyrau o bosibl yn ymwneud â'r 'Perorydd yr Ysgol Sul' a gyhoeddwyd yn Llyfrfa'r Cyfundeb, Caernarfon yn 1915, o dan olygiaeth J. T. Rees.
Llythyrau tra'r oedd yn America
Llythyrau, 1882-1883, at J. T. Rees yn yr America oddi wrth ei briod, Elizabeth. Ceir hefyd un llythyr wrth Tom Davies (brawd Elizabeth) a dau lythyr wrth ei gyfeillion.