Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Tysteb,

'Tysteb Eifion Wyn, 1919. Rhestr o'r Tanysgrifwyr' [er mwyn prynu'r urddwisg angenrheidiol ar gyfer y seremoni raddio. Casglwyd £61.15.6; talwyd £6.19.3 am y wisg].

Gradd MA,

Rhaglen Cymanfa'r Brifysgol, Aberystwyth, 15 Gorff. 1919, adeg derbyn gradd MA, er anrhydedd, gan EW; ynghyd â chopi teipysgrif o araith gyflwyniad Syr John Morris Jones.

Gwahoddiad i fabolgampau,

Cerdyn yn gwahodd 'Y Prifardd Eifion Wyn a'i deulu' i fabolgampau Ysgol Lewis, Pengam, sir Fynwy, i'w cynnal ar y Traeth ger Borth-y-gest, 2 Awst 1915.

Llyfr nodiadau bychan.

('Elizeus Williams. Copy or dyn ffwdanus, a phethau eraill' ar y clawr) yn cynnwys traethawd ar 'Y dyn ffwdanus' (ff. 1-9), a cherddi amrywiol (ff. 9v-12).

Llyfr log, 7 Chwef. 1843-23 Ebrill 1845,

Yn cynnwys 'Remarks on Board the Schooner Six Brothers of Portmadoc', wedi'i gadw gan y mêt William Owen [taid EW]. Cofnodir teithiau rhwng Porthmadog a Southampton, Caerloyw, Lerpwl, a lleoedd eraill yn Lloegr, a New Ross, Iwerddon. 131 ff.

Results 1 to 20 of 318