Showing 361 results

Archival description
Papurau Gwenallt
Print preview View:

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg.

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau'n cynnwys dyfyniadau o lyfrau am Williams Pantycelyn ac eraill.

Cerddi cynnar,

Cyfrol o'i farddoniaeth gynnar nas cyhoeddwyd, gan gynnwys y cerddi 'Fy Mam' a 'Dadrith'.

Eitemau yn ymwneud â Benjamin Joseph Morse (1899-1977),

Eitemau yn ymwneud â Benjamin Joseph Morse (1899-1977), uwch-ddarlithydd Eidaleg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, yn cynnwys drafftiau o'r gerdd 'Cyfeillion' o waith Gwenallt; cerdd goffa i Gwenallt gan B. J. Morse, ac eitemau printiedig o waith B. J. Morse a gyfwynwyd ganddo i'w gyfeillion Gwenallt a Nel Gwenallt.

Dante Gabriel Rossetti, Hand und Seele.

Copi o'r argraffiad preifat o'r gyfrol Hand und Seele (Hand and Soul) o waith Dante Gabriel Rossetti, y cyfieithiad Almaeneg o waith B[enjamin] J[oseph] Morse, cydfyfyriwr â Gwenallt yn Aberystwyth a darlithydd Eidaleg wedi hynny yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.

Results 1 to 20 of 361