Showing 839147 results

Archival description
Advanced search options
Print preview View:

9559 results with digital objects Show results with digital objects

Trawsgrifiad o gyfweliad gyda Emyr Humphreys / Transcript of an interview with Emyr Humphreys

Trawsgrifiad o gyfweliad ag Emyr Humphreys gan Mieke Stewen (Mai 1996), yn trafod gweithiau Emyr Humphreys gan gynnwys 'A Toy Epic', 'The Little Kingdom', a 'The Taliesin Tradition: A Quest for the Welsh Identity'. / A transcript of an interview with Emyr Humphreys by Mieke Stewen (May 1996), discussing Emyr Humphreys' works including 'A Toy Epic', 'The Little Kingdom', and 'The Taliesin Tradition: A Quest for the Welsh Identity'.

Mapiau o'r Eidal o gyfnod yr Ail Ryfel Byd / WWII era maps of Italy

Pymtheg map ffordd o'r Eidal, dyddiedig 1943 ac a gyhoeddwyd gan y 'U.S. Army Map Service', Washington. O bosib yn gysylltiedig â gwasanaeth Emyr Humphreys yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. / Fifteen road maps of Italy, dated 1943 and issued by the U.S. Army Map Service, Washington. Possibly related to Emyr Humphreys' service in Italy during the Second World War.

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Dau ar bymtheg o lyfrau nodiadau poced (1991-2006), yn cynnwys nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd, enwau a chyfeiriadau, drafftiau, syniadau, a barddoniaeth; ynghyd â nodiadau pellach wedi eu hysgrifennu ar napcyn, a llythyr oddi wrth Emyr Humphreys (heb ei ddyddio). / Seventeen pocket notebooks (1991-2006), containing manuscript notes written mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, including dates and times, names and addresses, drafts, ideas, and poetry; together with further notes written on a napkin, and a letter from Emyr Humphreys (undated).

Graddau er anrhydedd / Honorary degrees

Rhaglenni graddio a phapurau eraill yn ymwneud â Graddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni ar gyfer Prifysgol Abertawe (Cymrodoriaeth Coleg Er Anrhydedd 1987), a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990, Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth); copi o gylchgrawn 'Hon' (1963), yn cynnwys cyfweliad ag Emyr Humphreys; a llythyr oddi wrth Walford Davies (1978), ynglŷn â'r cynulliad blynyddol, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer hanner canmlwyddiant Côr Meibion Trelawnyd (1983), gan gynnwys llythyr gan Ednyfed Williams; a gwahoddiad am sgwrs yn y BBC (1950). / Graduation programmes and other papers related to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes for Swansea University (1987 Honorary College Fellowship), and the University College of Wales, Aberystwyth (1990, Honorary Doctorate in Literature); a copy of 'Hon' magazine (1963), featuring an interview with Emyr Humphreys; and a letter from Walford Davies (1978), re the annual assembly, University College of Wales Aberystwyth. The file also contains a programme for Côr Meibion Trelawnyd 50th anniversary (1983), including a letter from Ednyfed Williams; and an invitation for a talk at the BBC (1950).

Cymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog / Gregynog fellowship and conference

Papurau'n ymwneud â Chymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog, gan gynnwys rhaglen ac adroddiad cynhadledd (1972), a llythyrau (1972; 1974-1975) at Emyr Humphreys oddi wrth Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), ac Arthur Johnston (1). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau pellach oddi wrth J. Beverley Smith (1985) a Dafydd Rogers (1991); a theipysgrifau (1982; heb ddyddiad) o ddrafftiau o weithiau o’r enw ‘Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, ‘Hunan les neu hunan laddiad?’, a ‘Lle pwysig yw theatre’. / Papers relating to the Gregynog Fellowship and conference, including a conference programme and report (1972), and letters (1972; 1974-1975) to Emyr Humphreys from Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), and Arthur Johnston (1). The file also contains further letters from J. Beverley Smith (1985) and Dafydd Rogers (1991); and typescripts (1982; undated) of drafts of works titled 'Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, 'Hunan les neu hunan laddiad?’, and ‘Lle pwysig yw theatre’.

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis / Papers relating to Saunders Lewis

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a'i weithiau (1922-1999), yn cynnwys erthyglau gan Emyr Humphreys, toriadau, teipysgrifau, drafftiau, a phamffledi; a phapurau gweinyddol Cronfa Goffa Saunders Lewis, gan gynnwys gohebiaeth. / Papers relating to Saunders Lewis and his works (1922-1999), including articles by Emyr Humphreys, cuttings, typescripts, drafts, and pamphlets; and administrative papers of Cronfa Goffa Saunders Lewis, including correspondence.

Gweithredoedd Ymddiriedolaeth / Trust deeds

Dau gopi o weithred ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), ynghyd â dau lythyr oddi wrth y gyfreithwyr Morgan, Bruce & Hardwickes. / Two copies of the trust deed for The Taliesin Trust (1989), together with two letters from Morgan, Bruce & Hardwickes Solicitors.

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol eraill / Various other event programmes

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynhyrchiad theatr ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Abertawe (2003); ‘25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Orielau Celf Dinas Sheffield (1978); copi o ‘Fine print: A Review for the Arts of the Book’, cyf.7.2 (1981); a chopi o glawr ‘Wales’ rhif 1 1937 (dyddiedig 1969). / Various event programmes collected by Emyr Humphreys, consisting of programmes for a theatre production ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Swansea (2003); ’25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Sheffield City Art Galleries (1978); a copy of ‘Fine Print: A Review for the Arts of the Book’, vol.7.2 (1981); and a copy of the cover of ‘Wales’ no.1 1937 (dated 1969).

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Deg llyfr nodiadau poced (pob un heb ddyddiad), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys ac yn cynnwys drafftiau o farddoniaeth, dwdlau, a chyfeiriadau, ynghyd â cherdyn trwydded yrru Emyr Humprehys (1954-1961), copi o 'British Painting 40 -49' (1966), a nifer o ffotograffau bychain ([?1930au]). Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys llyfr nodiadau (1926) mewn sawl llaw wahanol, wedi'i lofnodi gan y Parch. Griffith Jones, Llanwnda, ac yn cynnwys nodiadau ar 'Natur Eglwys', barddoniaeth, a rhestr rhoddion. / Ten pocket notebooks (all undated), containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys and consisting of drafts of poetry, doodles, and addresses, together with Emyr Humprehys' driving licence card (1954-1961), a copy of 'British Painting 40-49' (1966), and a number of small photographs ([?1930s]). The bundle also contains a notebook (1926) written in several different hands, signed by Rev. Griffith Jones, Llanwnda, and containing notes on 'Natur Eglwys', poetry, and a donations list.

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Pedwar ar ddeg o lyfrau nodiadau poced (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, ac yn cynnwys cyfeiriadau, teithlenni, nodiadau dyddiadur, brasluniau, drafftiau, a rhestrau, ynghyd â rhaglen y Gymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979). / Fourteen pocket notebooks (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) containing manuscript notes mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, and including addresses, itineraries, diary notes, sketches, drafts, and lists, together with a programme for Cymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979).

Ymddiriedolaeth Taliesin / The Taliesin Trust

Papurau'n ymwneud â'r sefydliad llenyddol Ymddiriedolaeth Taliesin a'i safle yn Nhŷ Newydd ([1980]-1993), gan gynnwys llythyrau, nodiadau, gweithredoedd ymddiriedolaeth, a phrydlesi. / Papers relating to the literary organisation The Taliesin Trust and its site at Tŷ Newydd ([1980]-1993), including letters, notes, trust deeds, and leases.

Papurau yn ymwneud â Tŷ Newydd / Papers relating to Tŷ Newydd

Papurau yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Taliesin a phrydles Tŷ Newydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), copïau drafft o brydles Tŷ Newydd a gweithredoedd ymddiriedolaeth (1989), copi o’r weithred ymddiriedolaeth (1990), a nodiadau a threfniadau (1989); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), a gwahoddiad i Emyr Humphreys roi sgwrs i’r Ymddiriedolaeth (1993). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llun (heb ddyddiad); nodiadau pellach gyda’r teitl ‘Text for Billing’ (heb eu dyddio); llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp (1989) ac R. Alun Evans (1990); a chopi o erthygl gan Roland Mathias o’r enw ‘Emyr Humphreys’, yn manylu ar ei weithiau llenyddol ([1980]). / Papers relating to The Taliesin Trust and the lease of Tŷ Newydd, comprising letters from the Welsh Arts Council and The Taliesin Trust (1989), draft copies of the Tŷ Newydd lease and trust deeds (1989), a copy of the trust deed (1990), and notes & arrangements (1989); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), and an invitation for Emyr Humphreys to give a talk for the Trust (1993). The file also includes a photo print (undated); further notes titled ‘Text for Billing’ (undated); letters from M. A. R. Kemp (1989) and R. Alun Evans (1990); and a copy of an article by Roland Mathias titled ‘Emyr Humphreys’, detailing his literary works ([1980]).

Gŵyl y Gelli / Hay Festival

Rhaglen ar gyfer Gŵyl y Gelli 1993, a oedd yn cynnwys digwyddiad gydag Emyr Humphreys, ynghyd â llythyr at Peter Florence (cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli), tocynnau, a gwybodaeth. / A programme for Hay Festival 1993, which featured an event with Emyr Humphreys, together with a letter to Peter Florence (Hay Festival director), tickets, and information.

Cronfa Goffa Saunders Lewis / Saunders Lewis Memorial Fund

Papurau yn ymwneud â Chronfa Goffa Saunders Lewis, yn cynnwys papurau gweinyddol gan gynnwys cofnodion ac agendâu cyfarfodydd (1989-1996; 1998), gwybodaeth cyfrifon (1989-1991; 1994-1998), datganiad o ymddiriedaeth (1989), a gweithred amrywio (1998); ceisiadau i'r gronfa, gan gynnwys tystlythyrau a llythyrau argymhelliad oddi wrth John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, a James Naughton (1995-1996; 1999); a gohebiaeth (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) yn cynnwys llythyrau a drafftiau o lythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), a Meredydd Evans, 'Merêd' (1). / Papers relating to Cronfa Goffa Saunders Lewis (Saunders Lewis Memorial Fund), consisting of administrative papers including meeting minutes and agendas (1989-1996; 1998), accounts information (1989-1991; 1994-1998), declaration of trust (1989), and deed of variation (1998); applications to the fund, including references and letters of recommendation from John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, and James Naughton (1995-1996; 1999); and correspondence (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) including letters and drafts of letters from R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), and Meredydd Evans, ‘Merêd’ (1).

'The Romantics in Wales'

Pamffled yn hysbysebu cyhoeddiad ‘The Romantics in Wales: An Anthology’ gan Glyn Tegai Hughes a Hilary Paynter (Y Drenewydd, Powys: Gwasg Gregynog, 2009). / A pamphlet advertising the publication of ‘The Romantics in Wales: An Anthology’ by Glyn Tegai Hughes and Hilary Paynter (Newtown, Powys: Gwasg Gregynog, 2009).

Llyfrau nodiadau personol / Personal notebooks

Cyfres o lyfrau nodiadau poced (1926-2006) yn perthyn i Emyr Humphreys, y mwyafrif yn cynnwys nodiadau personol megis cyfeiriadau, rhestrau, drafftiau, brasluniau, a syniadau. / A series of pocket notebooks (1926-2006) belonging to Emyr Humphreys, the majority containing personal notes such as addresses, lists, drafts, sketches, and ideas.

Graddau er anrhydedd a chymrodoriaethau / Honorary degrees and fellowships

Papurau (1950-2013) yn ymwneud â Graddau Er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni, ardystiadau, a gohebiaeth. / Papers (1950-2013) relating to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes, certification, and correspondence.

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi yn ymwneud â Saunders Lewis a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau a drafftiau o erthyglau gan Emyr Humphreys yn cynnwys ‘A Necessary Figure’ (cyhoeddwyd Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), ynghyd â copi o'r erthygl gyhoeddedig; ‘Cyfieithu S. L.’ (cyhoeddwyd Y Faner, 1985), gyda chopi cyhoeddedig ohono; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (heb ei ddyddio); ‘Theatr Saunders Lewis’ (cyhoeddwyd Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); a ‘Noson y Tân’ (heb ei ddyddio); ynghyd â chopïau o weithiau gan Saunders Lewis, gan gynnwys y ddrama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Caerdydd: The Educational Publishing Co., 1922); ac ‘Wrth Aros Godot’, cyfieithiad o ‘En Attendand Godot’ gan Samuel Beckett (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1970); y pamffledi 'Y Blaid i Gymru: Ymatebion Saunders Lewis a J. E. Daniel i Mr Gwilym Davies', [?1942], 'Yr Achos dros Gyngor Datblygu Cenedlaethol Cymreig' ([?1933]), 'Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio ' gan Saunders Lewis a Lewis Valentine (1936), 'At Etholwyr Prifysgol Cymru' (1942); ac ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ gan W. J. Gruffydd (1945) a ‘Llythyr i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglenni i’r dramâu ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ gan Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), a ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ gan Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); toriadau o'r wasg yn ymwneud â Saunders Lewis (1972; 1977); rhaglen ar gyfer ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984); a chopi o rodd er anrhydedd i Saunders Lewis gan Brifysgol Cymru (1983). / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets relating to Saunders Lewis collected by Emyr Humphreys, comprising typescripts and drafts of articles by Emyr Humphreys including ‘A Necessary Figure’ (published Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), together with a copy of the published article; ‘Cyfieithu S. L.’ (published Y Faner, 1985), with a published copy of the same; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (undated); ‘Theatr Saunders Lewis’ (published Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); and ‘The Night of the Fire’ (undated); together with copies of works by Saunders Lewis, including the drama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Cardiff: The Educational Publishing Co., 1922); ‘Wrth Aros Godot’, a translation of ‘En Attendand Godot’ by Samuel Beckett (Cardiff: University of Wales Press, 1970); the pamphlets ‘The Party for Wales: Replies by Saunders Lewis & J.E. Daniel to Mr Gwilym Davies’, [?1942], ‘The Case for a Welsh National Development Council’ ([?1933]), ‘Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio’ by Saunders Lewis & Lewis Valentine (1936), ‘To the Electors of the University of Wales’ (1942); and ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ by W.J. Gruffydd (1945) and ‘Llythyr Cefnogaeth i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). The file also includes programmes for the dramas ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ by Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), and ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ by Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); press cuttings relating to Saunders Lewis (1972; 1977); a programme for ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, National Museum Wales (1984); and a copy of a bestowment of honorary degree for Saunders Lewis from the University of Wales (1983).

Results 1 to 20 of 839147