Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Llun Meirion Roberts,

Darlun ohono gyda'r pethau oedd yn bwysig iddo yn ei fywyd o'i amgylch gan gynnwys ei gyhoeddiadau ac adeiladau arwyddocaol [a gyhoeddwyd yn Robert Owen a John Gruffydd Jones (golygyddion), Darlun o arlunydd : E. Meirion Roberts (Caernarfon, 1995) ac yn ddiweddarach yn Elwyn Edwards (golygydd), Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd (Abertawe, 1997)].

Roberts, Meirion.

Teyrngedau,

Teyrngedau iddo mewn cylchgronau a phapurau bro, cerddi coffa iddo gan gynwys englynion gan Emrys Deudraeth [Roberts], ynghyd â llythyr, 1993, oddi wrth yr Academi Gymreig yn ymwneud â threfnu cyfarfod i'w goffáu. Ceir hefyd sgript 'Dydd Da, Lloyd' gan Aled [Lloyd Davies] ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol De Powys, Llanelwedd 1993, teipysgrif teyrnged iddo gan Nesta Wyn Jones, [Taliesin, 1992] ac adolygiad o Bro a Bywyd, 1998.

Roberts, Emrys.

Llythyrau at Gwyneth Lloyd,

Llythyrau, 1992-1993, gan gynnwys un yn ymwneud â sefydlu ymddiriedolaeth er cof am Tecwyn Lloyd, a llythyr oddi wrth Gwyn Thomas yn ymwneud â derbyn rhodd er cof amdano i'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Thomas, Gwyn, 1936-

Papurau Gwyneth Lloyd,

Llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd ati, papurau'n ymwneud â'r gyfrol yn coffáu D. Tecwyn Lloyd (Bro a Bywyd) a theyrngedau iddo, [1968]-1998.

Lloyd, Gwyneth, d.2005.

Bro a Bywyd,

Papurau, [1968]-[1997], yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol gan gynnwys manylion am y ffotograffau a'r llyfryddiaeth a ddefnyddiwyd, ynghyd â gwybodaeth am ei yrfa a'i gyhoeddiadau, [1968], yn Saesneg.

Papurau Frances Lloyd,

Llythyrau teuluol, llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd, tystysgrifau lefel O mewn Cymraeg a phapurau eraill, [1870]-1973.

Lloyd, Frances, d. 1980

Hengaer,

Papurau, [1986]-[ 1989], yn ymwneud â'i erthygl 'Hengaer (Uchaf), Llawrybetws', a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, cyf. 10 (1989), a gyda chywyddau Rhisiart o'r Hengaer, ynghyd â llungopïau am yr ymholiad i berchnogaeth Hengaer yn 1588 (ar gadw yn yr Archifau Cenedlaethol) a gwahanlith o'r erthygl.

Huws y Geufron,

Llungopïau o ohebiaeth rhwng Robin Gwyndaf ac aelodau o deulu’r bardd Hugh Lloyd Williams Hughes, Y Geufron Fawr, Corwen, 1973-1978, ynghyd ag enghreifftiau o’i farddoniaeth. [Cyhoeddwyd detholiad o'i waith barddonol yn ei gyfrol Cerddi'r Geufon (Dinbych, 1940)].

Gwyndaf, Robin

Results 61 to 80 of 207