Dangos 150 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ysgolheictod Cymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Rhai agweddau ar hanes Ysgolheictod Cymraeg a hanes Llenyddiaeth Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif'; 'Dysg Gymraeg o'r Unfed Ganrif ar Bymtheg Ymlaen' (a 'Welsh Scholarship from the Sixteenth Century until today'); 'Hanes Ysgolheictod Cymraeg yng Nghyfnod y Dadeni, 1550-1700'; 'Hanes Ysgolheictod Cymraeg' (a 'History of Welsh Scholarship'); 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16 Ganrif' (a 'Bardic Learning and the Welsh Renaissance of the 16th Century').

'Yr Iaith Lafar'

Darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar Gymraeg llafar yn bennaf, gan gynnwys 'Yr Iaith Lafar', 'Yr Iaith Lafar a'r Iaith Lenyddol', 'Y Gymraeg ym Mhontypridd a'r Cylch', 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cylch', 'Yr Iaith Gymraeg ym Morgannwg', 'Y Gymraeg yn Sir Fynwy', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'A Phonological conspectus of the Welsh dialect of Nantgarw', a 'Cymraeg Byw'.

'Yr Iaith Gymraeg'

Nodiadau darlithoedd amrywiol yn olrhain hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, gan gynnwys 'Yr Iaith Gymraeg', 'Yr Elfen Ladin yn y Gymraeg', a 'Y Gymraeg ym Morgannwg'.

Yr iaith Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.

Y Wasg Gymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Y llawysgrifau Cymraeg

Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.

Undeb Cymru Fydd

Cofnodion, gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1942-1945, perthynol i Undeb Cymru Fydd, a chysylltiad Elizabeth Williams â'r Undeb. Yn eu plith ceir nodiadau a darlith ar yr Undeb yn llaw G. J. Williams. Ceir hefyd ychydig bapurau, 1957 ac 1963, yn ymwneud ag ymgyrchoedd Cwm Tryweryn a Chlywedog; gohebiaeth, 1967-1969, yn ymwneud â chyflwr capel Bethesda'r Fro; llythyrau, 1972-1974, at Elizabeth Williams yn ymwneud â Chymdeithas Tai Gwynedd; a llyfr ysgrifennu, 1931-1935, yn cynnwys 'Adroddiad o waith Merched Gwaelod-y-Garth yn ystod diweithdra y tri-degau', yn cwiltio, nyddu, gweu, etc.

Traddodiad llenyddol Morgannwg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar draddodiad llenyddol Morgannwg, gan gynnwys drafft llawysgrif o'r gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948); ei draethawd buddugol ar feirdd Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd, 1918; darlithoedd ac erthyglau, [1911x1963]; a nodiadau amrywiol, [1911x1963].

Torion papur

Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.

Owen, Bob, 1885-1962

Canlyniadau 1 i 20 o 150