Dangos 210 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Waldo Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth

Llungopi o doriad a gymerwyd o rifyn 27 Rhagfyr 1923 o'r Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn adrodd am ddiwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth, achlysur a oedd yn cyd-ddigwydd ag ymddeoliad y prifathro, John Morgan. Ceir cyfeiriadau at lwyddiannau academaidd Waldo Williams tra bu'n ddisgybl yn yr ysgol a hefyd at yr araith a draddododd er clod am John Morgan ar ddiwrnod y gwobrwyo. Fe ymddengys mai ysgrifen Albert Lewis (gweler Canmlwyddiant geni Waldo Williams dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams) a geir ar gefn yr eitem.

Teyrngedau i Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn dwyn teyrngedau i Waldo Williams yn dilyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971, gan gynnwys teyrngedau ar ffurf barddoniaeth gan ei gyfeillion Euros Bowen a W. R. (William Rees) Evans.

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams, 24 Mai 1971, sy'n cynnwys teyrnged gan gyfaill Waldo, y bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, emyn o waith Waldo ei hunan, ac egwyl o ddistawrwydd yn ôl arferiad y Crynwyr. Bu farw Waldo ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu gyda'i wraig Linda a'i rieni ym mynwent Capel y Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, lle priodwyd Waldo a Linda ychydig dros ddeg mlynedd ar hugain ynghynt.

Y Baban Diwrnod Oed

Llungopi o gerdd yn dwyn y teitl 'Y Baban Diwrnod Oed'. 'Pethau Waldo' wedi'i nodi yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo Williams, ar ddalen flaen y llungopi.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Ioan Edmunds

Llungopi o lythyr, 17 Ebrill 1970, at Waldo Williams oddi wrth ei gefnder Ioan Edmunds, mab Wilhelmina (Minnie), chwaer Angharad Williams (née Jones), mam Waldo. Ceir hefyd gyfeiriad at Mwynlân (Mai Edmond (née Jones)), chwaer arall Angharad. Ysgrifennwyd y llythyr at Waldo yn ystod ei gystudd olaf, ac yntau'n glaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth 'Emrys'

Llungopïau o lythyrau, 9 Gorffennaf [ni nodwyd blwyddyn], 24 Awst 1970, 20 Rhagfyr 1970, at Waldo Williams oddi wrth 'Emrys', athro ysgol yn Llundain, tra 'roedd Waldo yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd. Ceir cyfeiriad yn un llythyr at Anna Wyn Jones, un o'i gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog a chyfaill agos i Waldo, a fu'n ymweld ag ef yn yr ysbyty yn ystod Awst 1970 (gweler Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones dan bennawd Gohebiaeth at Waldo Williams; hefyd, gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 408).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas

Llungopi o lythyr, 24 Medi 1967, at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas. Nid yw'n eglur pa un ai'r un Dewi Thomas sydd yma â'r Parch Dewi W. Thomas a ddisgrifir gan Alan Llwyd (Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 229-230, 339).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth George Evans

Llungopi o lythyr, 20 Medi 1970, at Waldo Williams oddi wrth George Evans, a oedd yn wreiddiol o Glunderwen, Sir Benfro (gweler nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo] ar frig y llythyr). Ysgrifennwyd y llythyr tra 'roedd Waldo dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm, a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny; ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth; a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Derbynneb

Derbynneb dyddiedig 15 Mawrth 1935 wedi'i chyfeirio at Waldo Williams gan Gyngor Dosbarth Gwledig Arberth.

Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog

Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones

Llungopïau o lythyrau, 6 Mawrth [1967], 19 Mawrth [1967], 30 Hydref [1967], 18 Awst 1970, 18 Mai 1971, at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones, un o gyd-athrawon a chyfaill Waldo yn Ysgol Ramadeg Botwnnog. Ynddynt, ceir cyfeiriadau at Dilys Williams a Mary Francis (née Williams), chwiorydd Waldo, ynghyd â thrafodaeth o Yr Heniaith, un o gerddi Waldo. Cynigiodd Waldo eglurhad o'r gerdd mewn llythyr nas cynhwysir yma ond a ddyddiwyd 16 Mawrth 1967 ac a anfonwyd oddi wrth Waldo at Anna Wyn Jones rhwng ei hymholiadau yn ei llythyr dyddiedig 6 Mawrth [1967] a'i hymateb i'w eglurhad yn ei llythyr dyddiedig 19 Mawrth [1967] (gweler nodyn isod). Ysgrifennwyd y ddau lythyr dyddiedig 18 Awst 1970 a 18 Mai 1971 at Waldo pan oedd dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd; dyddir y llythyr olaf ddeuddydd cyn ei farwolaeth ar 20fed o Fai 1971.

Gwrthodiad i dalu'r dreth incwm, dedfryd a charchariad Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn ymwneud â gwrthodiad Waldo Williams i dalu ei dreth incwm, ynghyd â'i ddedfrydu a'i garcharu o ganlyniad i hynny ym mis Medi 1960; hefyd toriad o rifyn 6 Hydref 1960 o bapur newydd Y Tyst yn cynnwys cerdd gan 'Gerallt' wedi'i chyfeirio at Waldo Williams yn ystod cyfnod ei garchariad.

Gohebiaeth at Waldo Williams

Llythyrau a chardiau post wedi'u cyfeirio at Waldo Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei wraig, Linda, a chan gyfeillion, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd, 1970-1971.

Canlyniadau 121 i 140 o 210