Dangos 47 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Dylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph,

  • NLW MS 16345D.
  • ffeil
  • 1883 /

Llawysgrif yn dwyn y teitl 'Traethawd ar Ddylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph' a gyflwynwyd dan y ffugenw 'Myfyr' yn Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog Nadolig 1883. = A manuscript essay entitled 'Traethawd ar Ddylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph' submitted under the pseudonym 'Myfyr' for competition at the Congregational Eisteddfod at Ffestiniog, Christmas 1883.
Rhennir y traethawd yn un bennod ar ddeg (ff. 2-65) a cheir ynddi gyfeiriadau at ffigurau nodedig, gan gynnwys athronwyr o'r oes Glasurol hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae yna restr cynnwys ar f. 1. Gwyddys i dri ymgeisydd roi cynnig ar y gystadleuaeth ac i John Jones, Meirion House, Tanygrisiau, ennill y wobr (gw. Y Dydd, 4 Ionawr 1884, t. 7), ond methwyd darganfod ai ef oedd 'Myfyr'. = The essay consists of eleven chapters (ff. 2-65) and contains references to notable figures including philosophers from the Classical period to the nineteenth century; a list of contents is on f. 1. It is known that three entrants attempted the essay and that the prize was won by John Jones, Meirion House, Tanygrisiau (see Y Dydd, 4 January 1884, p. 7), but it has not been possible to ascertain if he was 'Myfyr'.

'Myfyr'.

Pregethau'r Parch. William Harris, Heolyfelin,

  • NLW MS 16266B.
  • ffeil
  • [?19 gan., hwyr] /

Llyfr nodiadau (ff. i, 1-97) a dalennau heb eu rhwymo (ff. 98-140) yn cynnwys pum pregeth, [?19 gan., hwyr], ar y Testament Newydd yn llaw'r Parch. William Harris, gweinidog capel y Bedyddwyr Heolyfelin, Aberdâr, Morgannwg. = A notebook (ff. i, 1-97) and unbound leaves (ff. 98-140) containing five autograph sermons on the New Testament, [?late 19 cent.], by the Rev. William Harris, minister of Heolyfelin Baptist Church, Aberdare, Glamorgan.

Harris, W. (William), 1830-1911.

Hanes Eglwys y Boro, Llundain

  • NLW Facs 988
  • ffeil
  • 2004

Casgliad o lungopïau o ysgrifau ar Eglwys Annibynnol y Boro, Llundain a rhai o'i phobl, wedi eu dwyn ynghyd gan Mrs Morfudd Jenkins, South Harrow, Mai 2004.

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • ffeil
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Canlyniadau 41 i 47 o 47