Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Davies, John, fl. 1795.
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth

  • NLW MS 23943B.
  • Ffeil
  • [1795]-[1830]

Cyfrol o farddoniaeth, [1795]-[1830], yn cynnwys copïau o faledi a cherddi eraill, yn dyddio'n bennaf o'r ddeunawfed ganrif. Mae'r rhan helaethaf o'r llawysgrif (ff. 1-42) yn llaw John Davies, gydag ychwanegiadau, [?1820au], gan John Evans, gof o Lanrhaeadr[?-ym-Mochnant], sir Ddinbych (ff. 42 verso-46). = A volume, [1795]-[1830], containing transcripts of Welsh ballads and other poems, mainly of the eighteenth century. The majority of the manuscript (ff. 1-42) is in the hand of one John Davies, with later additions, [?1820s], by John Evans, blacksmith, of Llanrhaeadr[?-ym-Mochnant], Denbighshire.
Ymysg y beirdd a gynrychiolir yn y gyfrol mae Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes Ifangc (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts y Teiliwr o blwy Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd o'r Plas [Meini] (f. 22 recto-verso), Robert Richard o Bentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [o Niwbwrch] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), Y Parch. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), a Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). Ymddengys bod y mwyafrif o'r cerddi wedi eu copïo o ffynnonellau printiedig, gan gynnwys Blodeu-gerdd Cymry, o gynnulliad David Jones o Drefriw (Amwythig: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) ac amryw bamffledi. Mae yn y gyfrol hefyd ymgais gan John Evans i ysgrifennu beddargraff, dyddiedig 1825 a 1830 (f. 44), a dwy fersiwn o 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', o bosib gan John Evans, [1820au] (ff. 43, 46 recto-verso), gyda chopi teipysgrif o'r ddwy fersiwn, [20 gan., ail ½], [?gan D. Tecwyn Lloyd] yn rhydd yn y gyfrol (2 ff.). Mae taflen o dablau rhifyddol a werthwyd gan P. Sandford, Amwythig, [c. 1795], wedi ei bastio y tu mewn i'r clawr blaen. = Amongst the poets represented in the volume are Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes, junior (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts, tailor, of Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd ('o'r Plas [Meini]') (f. 22 recto-verso), Robert Richard, Pentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [of Newborough] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), the Rev. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), and Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). The majority of the poems were apparently copied from printed sources, including Blodeu-gerdd Cymry, selected by David Jones, Trefriw (Shrewsbury: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) and numerous pamphlets. The volume also contains attempts by John Evans at composing an epitaph, in 1825 and 1830 (f. 44), and two versions of 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', possibly by John Evans, [1820s] (ff. 43, 46 recto-verso), with a typescript copy of both versions, [20 cent, second ½], [?by D. Tecwyn Lloyd], inserted loose in the volume (2 ff.). A sheet of arithmetical tables, sold by P. Sandford, Shrewsbury, [c. 1795], is pasted inside the front cover.

Davies, John, fl. 1795.