Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adeilad ac eiddo,

Llawysgrifau gyda manylion adeiladu'r capel a chynlluniau o welliannau i'r capel ac ar gyfer Mans newydd, 1837x[1908], ynghyd â phapurau'n ymwneud â'r capel a'r tŷ capel, 1999-2004.

Traethawd MA

Papurau'n ymwneud â llunio traethawd Erfyl Fychan 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' (Lerpwl, 1939), gan gynnwys 'Gwerslyfr y delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion'), 1858.

'Telynor Cymru'

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, gydag adysgrif Erfyl Fychan, ynghyd â thorion o'r wasg yn ymwneud â'i fab Ernest Roberts.

Deunydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Bethel, Aberhonddu, 1854-[c.1945], a Chapel Horeb, Pum-hewl, Llanelli, [1910]-[1939], ynghyd â phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru, Seren y Plant a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Llythyrau at David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at David Bowen, 1890-1955, sy'n ymwneud yn bennaf â'i waith fel awdur colofn papur newydd, a golygydd cylchgronau amrywiol a chyhoeddiadau o waith Ben Bowen.

Traethawd MA

Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llungopïau o dorion papur newydd yn cynnwys adolygiadau o'i gyhoeddiadau yn bennaf, 1919-1949.

Canlyniadau 121 i 140 o 567