Showing 1587 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1961

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; D. Myrddin Lloyd, T. H. Parry-Williams, John Gwilym Jones, R. Gerallt Jones a J. E. Caerwyn Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1966

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1970

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Rhydwen Williams, Gwynne Williams, Marion Eames ac R. Bryn Williams. Ceir cyfeiriadau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Saunders Lewis, yn 1968, am Cymru Fydd^ ac i J. G. Williams, yn 1970, am Pigau'r Ser.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1975-1978

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd. Mwyafrif yr ohebiaeth yw llythyrau at, ac oddi wrth, y Cadeirydd, Bobi Jones, yn trafod y newidiadau cyfansoddiadol a gynigiwyd ganddo a'r syniad o ddefnyddio Bodiwan, Y Bala, fel canolfan i'r Academi.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.

Gruffydd, R. Geraint

Results 21 to 40 of 1587