Showing 231 results

Archival description
Papurau Gilmor Griffiths, Welsh
Print preview View:

Tystysgrifau,

Tystysgrif geni byr, 1917; Decree Nisi Absolute (ysgaru), 1975; priodas i Vera Williams, 1975; marwolaeth, 1985.

Papurau Gilmor Griffiths,

  • GB 0210 GILGRIF
  • Fonds
  • 1917-2011.

Llawysgrifau cerddorol a phapurau'r cyfansoddwr ac athro, Gilmor Griffiths.

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

Papurau personol,

Papurau personol ac eitemau eraill sy'n perthyn i Gilmore Griffiths. Toriadau i'r wasg syndod ac effemera wedi'u trefnu yn ôl diddordeb. Ychwanegwyd rhai papurau gan ei weddw.

Effemera,

Bathodyn Cymdeithas Cerdd Dant, stamp 'Musicians Union', stamp boglynwaith a 7 trawffyrch.

Geirda personol,

Geirda gan T. E. Davies, Ysgol Acrefair i Fechgyn, 1939; Parch. J. Knighton Jones, Ficer y Rhyl, 1957; J. Idwal Jones, Tŷ Cyffredin (d.d.); Haydn H. Thomas, Ysgol Glan Clwyd, 1960.

Rhai tonau,

Dau lyfr cerddoriaeth yn ogystal â nifer o dudalennau rhydd, sy'n cynnwys trefniadau a gosodiadau o emynau yn yr hen nodiant a sol-ffa. Y rhan fwyaf o'r cyfnod 1939-1941. Nifer o frasluniau o drefniadau, Dave-'O! Dduw rho i'm dy hedd'; 'O! am ysbryd i weddïo'; Elwyn-'Mae carcharorion angau' a 'Angels from the realm of glory', 1951. (Teitl a threfniant ffeil gwreiddiol).

Cerddoriaeth,

Taflennu cerddoriaeth o gyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths. Yn cynnwys sgorau llawysgrif, llungopïau, brasluniau a drafftiau. Nodwyd rhai sylwadau gan Vera Williams yn y maes nodiadau.

The thought of you (Dy gofio di),

Dau sgôr llawysgrif wreiddiol, ddyddiedig Mawrth 1943, gyda chopïau gwaith diweddarach o'r alaw 'Dy gofio di' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Saesneg gan Patience Strong. Dewis o gyfieithiad i'r Gymraeg gan I. D. Hooson, Glyndŵr Richards (Y Rhyl) neu E. Wilson Jones (Rhewl), 1984. Ysgrifennwyd 'Rhywle ar y môr'. Tudalen rhydd o sylwadau gan eraill.

Crefyddol ac emynau,

Cyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths o emynau a darnau o ddylanwad crefyddol. Nifer ohonynt wedi eu trefni ar gyfer côr.

Cefndu,

Llawysgrif o'r alaw 'Cefndu' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Deep harmony,

Trefniant S.A.T.B. gan Gilmor Griffiths o 'Deep Harmony' gan Handel Parker, dau fersiwn o eiriau gan David Charles a Mairlyn Lewis. Un fersiwn mewn tonic sol-ffa.

Deffro mae'r gwanwyn,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Deffro mae'r gwanwyn' gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched, geiriau ( Awel yn sibrwd ) gan Dorothy Jones.

Diolch,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Diolch', trefniant ar gyfer merched neu blant gan Gilmor Griffiths, geiriau Aeres Evans.

Non Nobis, Domine,

Copi sgôr 'Non Nobis, Domine' gan Roger Quilter, geiriau Rudyard Kipling wedi eu cyfieithu gan James Arnold Jones. Trefniant ar gyfer côr merched neu blant.

Praise be to thee,

Llawysgrif a llungopi o sgôr, hefyd mewn sol-ffa, o gyfansoddiad gwreiddiol Gilmor Griffiths 'Praise be to thee' ar gyfer côr pedwar llais, geiriau gan James Arnold Jones. Ar gyfer Cymdeithas Corau Meibion Gogledd Cymru'.

Results 1 to 20 of 231