Showing 27 results

Archival description
Papurau R. Elwyn Hughes
Print preview View:

Effemera

Eitemau llawysgrif a phrintiedig , 1660-[1936], yn ymwneud â'i ddiddordeb mewn natur, amaethyddiaeth a hanes lleol.

Papurau R. Elwyn Hughes

  • GB 0210 RELWES
  • Fonds
  • [1660]-2012 (gyda bylchau)

Papurau’r biocemegydd, yr ymgyrchydd iaith, a’r hanesydd gwyddoniaeth R. Elwyn Hughes, [1660]-2012, yn cynnwys papurau’n ymwneud â’i ymchwil gwyddonol ac ar gyfer cyhoeddiadau ar hanes gwyddoniaeth, ynghyd â gohebiaeth. = Papers of R. Elwyn Hughes, biochemist, language campaigner and science historian, [1660]-2012, including papers relating to his scientific research and to publications on the history of science, together with correspondence.

Hughes, R. Elwyn (Richard Elwyn), 1928-

Enwau planhigion

Papurau'n adlewychu'i ddiddordeb mewn tarddiad enwau planhigion, enwau planhigion mewn ieithoedd eraill a phlanhigion gydag arwyddocâd crefyddol.

Gohebiaeth

Llythyrau, 1935-2012, oddi wrth wyddonwyr, gwleidyddion amlwg ac eraill yn ymwneud â'i ddiddordebau ymchwil.

Llythyrau 1935-2006

Ymhlith y llythyrau mae un oddi wrth T. E. Nicholas a soned 'Syrcas Caernarfon 1969' ganddo mewn teipysgrif gyda nodyn yn ei law: 'Fy soned olaf, ar ben fy mhlwydd yn 89 Hyd 6/68'

Papurau bywgraffyddol

Toriad o gylchgrawn Coleg y Santes Catrin, [Caergrawnt], yn nodi iddo ennill gradd dosbarth cyntaf (rhagarweiniol) mewn Gwyddoniaeth Naturiol yn 1948, llyfryddiaeth, 1983-1988, copi o Llyfrau gwyddonol Cymraeg (Rhan II) - llyfrau cyn 1940 yu bu'n cynorthwyo ei llunio yn cynnwys ychwanegiadau llawysgrif a thoriad o'r [Dinesydd] am gyflwyno'r fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.

Joseph Murray Ince

Papurau ymchwil yn ymwneud â'i erthygl 'Joseph Murray Ince (1806-1859), artist of Presteign, Radnorshire' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf. 17, rh. 4 (Gaeaf 1972), ynghyd â nodiadau pellach ar hanes Rhayadr.

Y Faner

Torion o'i erthyglau a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1977-1989, ynghyd â llythyrau oddi wrth Jennie Eirian Davies yn ymateb i'w erthyglau.

Davies, Jennie Eirian, 1925-1982

Results 1 to 20 of 27