Showing 54 results

Archival description
Llawysgrifau ac archifau T. Llew Jones
Print preview View:

Archifau T. Llew Jones

Grŵp o bapurau ychwanegol T. Llew Jones a fu yn rhan o arddangosfa canlwyddiant ei eni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sef ‘Swyn y storïwr: Canmlwyddiant T. Llew Jones’, 2015-2016.

Llawysgrifau T. Llew Jones

Deuddeg ar hugain o ddyddiaduron y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, sef un gyfrol o gofnodion achlysurol rhwng 1957 a 1976, a chyfrolau ar gyfer y blynyddoedd 1965, 1970-1982, 1984-1999. Mae cyfeiriadau yn aml trwy gydol y dyddiaduron at ei feibion, Emyr Llewelyn a Iolo Ceredig Jones, at aelodau teulu'r Cilie, Cwm Tydu, Ceredigion, a ffigurau amlwg eraill ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ac at wyddbwyll. = Thirty-two diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, comprising one volume of occasional entries for the period 1957 to 1976, and volumes for the years 1965, 1970-1982, 1984-1999. There are frequent references throughout to his sons, Emyr Llewelyn and Iolo Ceredig Jones, to members of the Cilie family of Cwm Tydu, Ceredigion, and other prominent Welsh poetic and literary figures, and to chess.

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1987, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, ynghyd ag atgofion plentyndod (ff. 1 verso-3 verso), barddoniaeth ganddo (ff. 47, 80) ac englyn gan Emyr Llewelyn (f. 55). = Diary of T. Llew Jones for 1987, giving an account of his daily life and interests, together with childhood reminiscences (ff. 1 verso-3 verso), poetry by him (ff. 47, 80) and an englyn by Emyr Llewelyn (f. 55).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (ff. 19 verso, 26, 35, 45, 66 verso, 69 verso, 76 verso, 92 verso) a Guto Roberts (ff. 29 verso-30). = The volume includes references to Dic Jones (ff. 19 verso, 26, 35, 45, 66 verso, 69 verso, 76 verso, 92 verso) and Guto Roberts (ff. 29 verso-30).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1988, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1988, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), a marwolaeth Cassie Davies (f. 36 verso), yn ogystal â nodiadau'n ymwneud â Waldo Williams (f. 106 verso); ceir hefyd gyfeiriadau at lyfrau a llawysgrifau a ganfyddwyd yn Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), a charreg ogam a siambr gladdu yng Nghapel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), and the death of Cassie Davies (f. 36 verso), together with notes relating to Waldo Williams (f. 106 verso); also included are references to books and manuscripts discovered at Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), and an ogam stone and burial chamber at Capel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso).

Results 1 to 20 of 54