- P.
- is-fonds
- 1933-[1999].
Llythyrau, papurau'n ymwneud â'i yrfa yn y Brifysgol a phapurau'n adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, 1933-[1999].
Llythyrau, papurau'n ymwneud â'i yrfa yn y Brifysgol a phapurau'n adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, 1933-[1999].
Llythyrau, 1946-[1999], oddi wrth aelodau'r teulu a ffrindiau, ac yn ymwneud â'i waith fel llenor a darlithydd.
Llythyrau, 1953-[1999], gan gynnwys rhai oddi wrth Bleddyn J. Roberts, Katrin [Kate Bosse-Griffiths], Iorwerth Jones, Prys Morgan, Aneirin Talfan Davies, Mathonwy Hughes, R. Brinley Jones, Gwilym R. Jones, Gwilym Rees Hughes, Gareth [Alban Davies] (2), D. Ellis Evans (2), Melfyn R. Williams, Bobi Jones (2), John Tudno Williams (2), Brinley Rees, Dafydd Orwig (3), [D.] Myrddin [Lloyd], Cyril Williams (4), Gwilym H. Jones (3), W. D. Davies (4), Marian Henry Jones (5), Euros [Bowen], Nigel Jenkins, Gwilym Ll[oyd] Edwards (2), Alan Llwyd, Telfryn [Pritchard] (5), W. Eifion Powell, Cedric Maby, Mari Ellis, Gerald Morgan, Dafydd Islwyn, Ned Thomas (2), Alun R. Jones (2), Simon Brooks, Rob[at] [Gruffudd], D. Densil Morgan, Pennar [Davies] (2) ac Aneirin [Talfan Davies]. Ceir drafftiau o rai o lythyrau J. Gwyn Griffiths ar ddiwedd y rhediad.
Roberts, Bleddyn J. (Bleddyn Jones)
Papurau, 1933-1986, gan gynnwys cais am radd DD, 1980, tystlythyrau, 1933-1934 a curriculum vitae, cais am gadair yn y Clasuron, Prifysgol Abertawe, 1967, ymchwil proffesiynol, ynghyd ag adroddiad 'Taith Ymchwil yn yr Undeb Sofiet', 1986.
Darlith a draddodwyd ganddo ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, 1984, i ddathlu canmlwyddiant y sefydliad.
Cais Gwilym H. Jones ac adroddiad J. Gwyn Griffiths fel canolwr iddo, 1985.
Pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl, 1988,
Darlithoedd a nodiadau a baratowyd ganddo ar gyfer cyfres o 6 darlith (Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe), ynghyd â'r 'Cyfieithiad newydd o'r Testament Newydd', darlith flynyddol Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1975, a chopi o Seren Gomer, Gaeaf 1975, yn cynnwys ei erthygl 'Y cyfieithiad Cymraeg newydd o'r Testament Newydd II'.
Llyfr cyfrifon Cangen Plaid Cymru, Abertawe, 1960-1964, a llyfrau nodiadau yn ymwneud â threfniadau etholiadau lleol yn ardal Abertawe, 1967-1972.
Llythyr oddi wrth R. Brinley Jones yn ymwneud â marchnata'r llyfr, ynghyd â thaflen yn ei hyrwyddo.
Jones, R. Brinley
Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),
Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.
Davies, Ceri.
Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),
Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.
Williams, D. J. (David John), 1885-1970.
Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.
Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-
Papurau, 1995-1996, yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Wasg Prifysgol Cymru.
Cerddi mewn teipysgrif a gyhoeddwyd yn Cerddi’r Holl Eneidiau yn 1981 ac yn ddiweddarach yn Hog dy fwyell (2007), casgliad o gerddi J. Gwyn Griffiths a olygwyd gan ei fab Heini Gruffudd.
Colli neges heddwch yr Efengyl,
Drafft mewn llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn [Cristion, 1995].
J. Gwyn Griffiths : yn ateb holiadur llenyddol Alun R. Jones,
Drafftiau o'i atebion i'r holiadur a gyhoeddwyd yn [Yr Aradr, 1996], ynghyd â llythyrau oddi wrth Alun R. Jones.
Jones, Alun R. (Alun Richard).
Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.
Beirniadaethau, adolygiadau, a phapurau eraill,
Beirniadadaethau, adolygiadau, a phapurau'n ymwneud â Chylch Cadwgan, [1942]-1992.
Torion o'i adolygiadau, [1943]-[1987], a gyhoeddwyd mewn papurau fel y South Wales Evening Post, Y Faner, Y Ddraig Goch, Seren Cymru, ynghyd â llawer mewn teipysgrif.