Showing 59941 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Glasnant

  • GB 0210 GLASNANT
  • Fonds
  • [1882x1971]

Pregethau, gweithiau creadigol, anerchiadau a gwaith ymchwil y Parch. W. Glasnant Jones, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymddeoliad a'i farwolaeth, gan gynnwys llythyrau o gydymdeimlad, [1882x1971].

Glasnant, 1869-1951

Hunangofiant - copïau printiedig

Copïau printiedig o hunangofiant y Parch. W. Glasnant Jones, Cyn Cof Gennyf a Wedyn, a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd, 1947-[1948]. Mae'r tudalennau perthnasol o'r rhifynnau lle ymddangosodd yr atgofion wedi eu tynnu allan a'u rhoi mewn llyfryn gyda'i gilydd. Ceir nodiadau yng nghefn y llyfryn.

Torion papur newydd

Deunydd printiedig, [1900x1949], sydd yn bennaf yn dorion o erthyglau wedi'u hysgrifennu gan y Parch. W. Glasnant Jones. Mae un erthygl yn hysbysebu ei hunangofiant Cyn Cof Gennyf a Wedyn (1949).

Cerddi

Copïau llawysgrif o rai o gerddi'r Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill. Mae'r dyddiad 1937 ar un o'r cerddi.

Christmas Evans

Araith gan y Parch. W. Glasnant Jones ar Christmas Evans, [1938], i'w thraddodi ar ddiwrnod canmlwyddiant marwolaeth Christmas Evans.

Teyrngedau i Glasnant

Papurau yn ymwneud yn bennaf ag ymddeoliad y Parch. W. Glasnant Jones, 1941, a'i farwolaeth yn 1951, gan gynnwys rhaglen gwasanaeth dadorchuddio maen coffa, 1965.

Teyrngedau

Papurau amrywiol yn ymwneud yn bennaf ag ymddeoliad Glasnant, [c. 1941], gan gynnwys llythyr ato ar ei ymddeoliad a cherdd deyrnged; ynghyd â rhai papurau yn ymwneud â'i farwolaeth, megis copi o'r Tyst yn cynnwys teyrnged iddo, taflen emynau ei angladd a llythyr cydnabyddiaeth o gydymdeimlad gan ei feibion, 1951; ynghyd â rhaglen gwasanaeth dadorchuddio maen coffa iddo, 1965.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Ffynhonnau, Llanefydd

  • GB 0210 FFYNHON
  • fonds
  • 1854-1996

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r capel, yr Ysgol Sul ac a gweithgareddau diwylliannol. Mae yn cynnwys llyfrau'r eglwys, 1951-1969, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-1975, llyfrau'r Eisteddleoedd, 1908-1996, llyfrau cyfrifon,1861-1984, llyfrau casgliad chwarterol,1940-57,llyfr banc, 1928-1953, llyfr llythyrau aelodaeth,1945-1985 a chofrestr aelodau cymdeithas ddirwestol y capel, 1905-1956. Ceir hefyd lyfrau cofnodion a chyfrifon yr Ysgol Sul, 1854-1985, a llyfr cofnodion pwyllgor yr Eisteddfod, 1964-1967.

Capel Ffynhonnau (Llannefydd, Wales)

Llythyr, 1927, oddi wrth Harry Lewis, Eglwyswrw, at ei gefnder David Thomas, yn diolch iddo am ei erthyglau i Seren ...,

Llythyr, 1927, oddi wrth Harry Lewis, Eglwyswrw, at ei gefnder David Thomas, yn diolch iddo am ei erthyglau i Seren Cymru; ynghyd â llungopi o erthygl 'Thomasiaid Bethabara' gan B. G. Owens o Seren Cymru, Gorffennaf 1997. Letter, 1927, from Harry Lewis, Eglwyswrw, to his cousin David Thomas, thanking him for his articles for Seren Cymru; together with a photocopy of an article by B. G. Owens relating to the Thomas family taken from Seren Cymru, July 1997.

Results 141 to 160 of 59941