Showing 14 results

Archival description
Papurau Rhiannon Davies Jones
Print preview View:

Cerddi

Tri llyfr nodiadau, [1935]-[1952] yn cynnwys cerddi ganddi, nifer ar ffurf cwpledi. Ymhlith y cerddi mae cerdd i 'Capel Salem', 1936, a llyfr 'Brynhyfryd Grammar School' yn cynnwys hwiangerddi.

Ysgrifau

Ysgrifau teipysgrif am aelodau o’i theulu yn bennaf, gan gynnwys, ‘Dau fedydd a dwy afon’; ‘Fy nain’, ‘Jane Ann Jones’ (Merched yn Bennaf); ‘Rhamant y siwrneiau i Ddyffryn Clwyd o Lannau Meirion’; ‘Y pentref lle’m ganwyd’; ‘Aelwyd Taid a Nain’; ‘Ysgrifennu nofel hanes’; a ‘Y cyffredin yn troi’n anghyffredin’.

Amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys erthyglau ganddi: 'Anfarwoldeb Sian Owen' [a gyhoeddwyd yn Seren Menai, cyfnodolyn Y Coleg Normal, Bangor]; ‘O’r crochan berw’, Seren Cymru, 1987; ynghyd ag englyn gan Robin [Llwyd] ab Owain iddi, un o'i myfyrwyr; teyrnged gan Meic Stephens i Rhiannon Davies Jones a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr i, 29 Hydref 2014; a chopi o deyrnged [Eurfryn Davies a draddododd yn ei hangladd (gw. NLW ex 2979)].

Llyfrau ymwelwyr

Llyfrau ymwelwyr o ddau gartref sef Glynor, Llanfair ger Harlech a Gwernyfed, Maes yr Hafod, Porthaethwy. Roedd Gwynfor Evans, Lewis Valentine, Bob Owen Croesor a Dilys Cadwaladr ymhlith yr ymwelwyr nodedig.

Gohebiaeth

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1964, yn ymwneud â llwyddiant ei nofel [Lleian Llanllŷr]; llythyr oddi wrth Gruffydd Aled Williams, 2002, yn ymateb i’w nofel olaf Cydio mewn Cwilsyn ac oddi wrth Geraint V[aughan] Jones, 2003.

Cerddi eisteddfodol

Cerdd ‘Lili y Dyffrynnnoedd ydwyf i’ a 'Hiraeth', Colofn yr Awen, Seren Cymru, 6 Hydref 1950; awdl ‘Y castell’, Eisteddfod Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, 1959 a ‘Hiraeth’, Seren [Cymru]; ac awdl 'Y frwydr' gan ['Daear y graith'] a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'i chyffiniau yn 1981.

Papurau ei rhieni

Tystysgrif priodas ei rhieni Hugh Davies Jones a Laura Owen a briodwyd yng Nghapel Salem, Llanbedr, 10 Mehefin 1912 a llungopi o deyrnged i'w thad 'Y diweddar Barch. H. D. Jones' a gyhoeddwyd yn Yr Hauwr [misolyn Undeb Bedyddwyr Cymru at wasanaeth Yr Ysgol Sul] yn [1924].

Papurau amrywiol

Llungopi o gerdd deyrnged gan HCW [Hugh Cernyw Williams] i’r Parch. H. D. Jones, ei thad, a fu farw yn 1924; papurau yn ymwneud â hanes lleol Ardudwy, gan gynnwys ‘Atgofion am Uwch Artro’, gan ei mam Laura Davies Jones a gyhoeddwydy yn Seren Cymru, yng nghanol y saithdegau; ‘Atgofion plentyndod yn Ardudwy’ gan ei chwaer Annie Davies Evans; adysgrif o sgwrs ar dri thâp rhwng Robin Gwyndaf a Laura Davies Jones, mam Rhiannon Davies Jones; yr arfer o osod 'Yr asgwrn coel' uwchben drws tŷ; hanes ‘Y Llyfr Ymwelwyr’, ynghyd ag adroddiad ar seremoni lansiad ei nofel Adar Drycin (1993) gan Wasg Gwynedd yn stiwdio Barcud, Caernarfon.

Papurau llenyddol

Papurau yn cynnwys cerddi cynnar Rhiannon Davies Jones , llythyrau a chopi o'i thraethawd MA (1975) ar ddychan mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Papurau Rhiannon Davies Jones

  • GB 0210 RHIDAVES
  • Fonds
  • 1878, 1912-2014

Papurau llenyddol a theuluol Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (gyda bylchau), yn cynnwys barddoniaeth, ei thraethawd MA, ysgrifau, ffotograffau, llyfrau ymwelwyr a phapurau amrywiol. = Literary and family papers of Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (with gaps), her MA thesis, articles, photographs, visitor books and miscellaneous papers.

Jones, Rhiannon Davies