Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

'Llawlyfr Ymfudiaeth ar gyfer amaethwyr a gweithwyr Cymru' gan 'Gomer', 'Anturiaethwr' ac 'Ymfudwr', gweithiau a dderbyniwyd yn rhy hwyr i'r ...,

'Llawlyfr Ymfudiaeth ar gyfer amaethwyr a gweithwyr Cymru' gan 'Gomer', 'Anturiaethwr' ac 'Ymfudwr', gweithiau a dderbyniwyd yn rhy hwyr i'r gystadleuaeth. Rhannwyd y wobr rhwng W. O. Evans, Nefyn, a Griffith Jones ('Glan Menai'), Caernarfon.

Casgliad o'r deuddeg emyn Cymraeg gorau wedi eu dewis gan yr ymgeisydd a'u cyfieithu a cheir detholiad 'Isaac Watts',

[Am waith 'Morgan Rhys' a 'Brython' gweler Papurau Syr Vincent Evans]. [Am fugeilgerdd 'Owen Puw' gan 'Alltud', beirniadaeth 'Dafydd Morganwg', 'Watcyn Wyn' ac un dienw ar y fyfyrdraeth a beirniadaeth Joseph Parry ar y gystadleuaeth 'Baritone Songs' gweler Papurau'r Cymmrodorion yn LlGC]. [Am fyfyrdraeth 'Y Disgybl Fardd ar Gader Idris' gan 'Adsain y Creigiau'; 130 o englynion i'r 'Cerflunydd'; trigain hir-a-thoddaid 'Beddargraff Cynfaen'; dychangerdd 'Cyfieithwyr Anfedrus Llysoedd Barn Cymru'; 'Rhangan i leisiau gwrywaidd' gan 'Ymdeithydd' (cydfuddugol); a thriawd lleisiol i denor a bas gan 'Thibaut' (gwobrwywyd) gweler Papurau Syr Vincent Evans yn LlGC].

W. Williams, FRSE, Caeredin, ar 'Am y Frawddeg (Motto) Gymreig oreu, heb fod dros ddeg gair, yn argymell caredigrwydd at ...,

W. Williams, FRSE, Caeredin, ar 'Am y Frawddeg (Motto) Gymreig oreu, heb fod dros ddeg gair, yn argymell caredigrwydd at Geffylau, cyfaddas i'w gosod uwch drws marchdy', a hefyd 'Y modd goreu i drin Ceffylau gyda golwg ar eu porthiant, eu tyaeth, eu toriad i gyfrwy a thresi, a'u trafodaeth yn gyffredinol'.

Results 1 to 20 of 2917