- 157.
- Ffeil
- 1936, Ion. 23.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Diolch am eirda. Cyfaddef fod ganddo barchedig ofn o farn W. J. Gruffydd 'yn ymylu ar y numinous mewn llenyddiaeth'. Mae'n ceisio llunio dwy sgwrs ar gyfer y BBC ar y ddrama.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Diolch am eirda. Cyfaddef fod ganddo barchedig ofn o farn W. J. Gruffydd 'yn ymylu ar y numinous mewn llenyddiaeth'. Mae'n ceisio llunio dwy sgwrs ar gyfer y BBC ar y ddrama.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Gofyn i W. J. Gruffydd ysgrifennu golygfa ar gyfnod Morgan Llwyd ar gyfer pasiant sydd i'w drefnu erbyn cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1939. [Ni chynhaliwyd y pasiant wedi'r cwbl, gweler Adroddiad ... yr Undeb yng Nghaerdydd (1939), t. 19]. Mae Mr [Iorwerth C.] Peate yn bwriadu ysgrifennu dwy olygfa a chlymu'r oll ynghyd.
R. G. Berry, Gwaelod-y-garth (at Mrs Gruffydd),
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Addo mynd i weld W. J. Gruffydd yn yr ysbyty yn dilyn triniaeth lawfeddygol. Dyled R. G. Berry i W. J. Gruffydd yn fawr. Byddai R. G. Berry a'i wraig yn hoffi gweld Mrs Gruffydd pe dibennai'r rhyfel.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Wrth ddiolch yn y cyfarfod diolchgarwch bu R. G. Berry yn diolch yn ddistaw bach fod W. J. Gruffydd yn fyw ac iach. Y mae'n dyfynnu barddoniaeth W. J. Gruffydd yn aml gan mai ef 'yw'r mwyaf o ddigon o'r holl frîd'.
Euros Bowen; Geraint Bowen, Orchwy Bowen, J. James, Ceinewydd,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith y diwrnod cynt. Cerdyn post.
Euros Bowen, Llangywair (at W. J. Gruffydd a'r Parch. David Jones),
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae wedi darllen y pryddestau [ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952] ac eiddo 'Efnisien' yw'r gorau yn ei farn ef. Y mae'n barod i ddyfarnu'r Goron iddo er bod brychau ar ei waith. Y ddau agosaf ato yw 'Berddig' a 'Monad' ond y maent hwy yn yr ail ddosbarth.
Euros Bowen, Llangywair (at W. J. Gruffydd a'r Parch David Jones),
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae wedi dod o hyd i bryddest 'Glas-y-don' ond y mae honno yn perthyn i'r ail ddosbarth hefyd.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae'n credu bod gan 'Efnisien' ddehongliad o'r Creadur. Trafod ffasiwn mewn llenyddiaeth a 'ffasiwn diflanedig' yn arbennig. Mae ymglywed â ffasiwn cerdd 'Efnisien' yn gymorth i'w deall. Mae Euros Bowen yn fodlon iddo gael y Goron fel y dywedodd yn ei lythyr cyntaf at W. J. Gruffydd.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Sylwa nad yw W. J. Gruffydd yn barod i roi'r Goron i un o'r cystadleuwyr. Dyna farn Euros Bowen hefyd, er ei fod yn fodlon gweld coroni 'Efnisien'. Y Parch David Jones yn awyddus i goroni, y ddau orau ganddo yw 'Perthi Llwydion' a 'Berddig'. Nid yw 'Perthi Llwydion' yn deall Vers Libre. Euros Bowen yn tybio mai stori fer sydd gan 'Arnallt'. Mae darnau o bryddest 'Efnisien' na all fod wrth fodd pawb, ond y maent yn cymryd eu lle yn briodol yn y gerdd. Mae effaith foesol derfynol y bryddest yn iach ac mae mwy o fedr barddonol ynddi nag sydd gan neb arall yn y gystadleuaeth.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Nid yw Euros Bowen yn gosod pryddest 'Efnisien' gyda'r lleill. Fel y dywedodd, y mae'n fodlon iddo gael y Goron a phan aiff ati i lunio beirniadaeth y mae'n bwriadu dweud hynny.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Bydd yr ôl-nodiad i'r llythyr amgaeëdig [sydd ar goll] o ddiddordeb i W. J. Gruffydd. Y mae W. N. Bruce yn mynd i roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Y mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd wedi cael ei alw hefyd. W. N. Bruce yn bwriadu codi mater cyhoeddi llyfrau gosod ar gyfer pob lefel addysgol, nid rhai yn Gymraeg yn unig, er mai rheiny ddylai gael y sylw yn gyntaf.
[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.
Crynodeb o dystiolaeth W. J. Gruffydd i Bwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.
Crynodeb o dystiolaeth W. N. Bruce i Bwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Diolch am ei lythyr a'r crynodeb; y mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth yntau. Nid oes dim ynddynt sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Prif fwriad W. N. Bruce yw pwysleisio'r angen am lyfrau gosod. Y mae'n deall ofnau W. J. Gruffydd ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Ymgynghorol. Nid trwy bleidlais y mae gweld gwir gryfder corff fel hwn. O ddewis yr elfen academaidd yn ofalus gall ei ddylanwad fod gystal â deg gwaith ei nerth pleidleisio.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae cyfiawnhad dros i W. J. Gruffydd ymgeisio am swydd Prifathro Coleg [Caerdydd]. Pe na bai W. N. Bruce ar y pwyllgor [dewis] byddai yn falch iawn o ysgrifennu tystlythyr iddo. Gan ei fod ar y pwyllgor y mae'n gorfod bodloni ar addo rhoi ystyriaeth deg i'r cais. Byddai wedi synnu ac yn siomedig pe na roddid enw W. J. Gruffydd ymlaen ar gyfer y swydd. Nid yw yn gwybod eto pa enwau eraill y byddant yn eu hystyried.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Y mae wedi darllen erthygl W. J. Gruffydd yn y Western Mail ['The Case Against a National Council of Education for Wales', t. 11]. Dywed ei bod yn ddiddorol a dewr, er nad yw ef yn cytuno â'i safbwynt. Trafodir y syniad na ellir gweithredu cynllun W. N. Bruce heb greu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Yr ail bwynt i'w drafod yw sefydlu perthynas bendant rhwng arholiad ac archwiliad. Adroddir hanes argyfwng y Bwrdd Addysg wrth geisio dosbarthu arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru flynyddoedd ynghynt. Yr oedd Owen Edwards ac Alfred Davies i gael defnyddio'r arian fel y mynnent. Mae W. N. Bruce yn gweld eisiau ei gysylltiad a'r Brifysgol yn fawr iawn ond bu'n rhaid iddo dorri'r cysylltiad oherwydd afiechyd.
G. E. K. Braunholtz, Rhydychen,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Y mae'n amgau erthygl [sydd yn eisiau] ar ran y Philological Society gan ofyn i W. J. Gruffydd fwrw golwg drosti a rhoi ei farn arni i weld a yw'n addas ar gyfer trafodion y gymdeithas. Gwahoddiad i alw pan fydd W. J. Gruffydd yn Rhydychen.
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Diolch am lythyr W. J. Gruffydd yngl?n â rhyddid yr ysgolion gramadeg. Bydd R. A. Butler yn delio â'r pwynt hwn yn ei araith ar yr Ail Ddarlleniad. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am osod allan ei awgrymiadau ar gyfer y Ddeddf Addysg.