Dangos 231 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gilmor Griffiths,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Gilmor Griffiths,

  • GB 0210 GILGRIF
  • Fonds
  • 1917-2011.

Llawysgrifau cerddorol a phapurau'r cyfansoddwr ac athro, Gilmor Griffiths.

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

Cerddoriaeth,

Taflennu cerddoriaeth o gyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths. Yn cynnwys sgorau llawysgrif, llungopïau, brasluniau a drafftiau. Nodwyd rhai sylwadau gan Vera Williams yn y maes nodiadau.

Carolau Gilmor,

Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).

Gilmora, 15 o alawon cerdd dant.

Ail argraffiad o 'Gilmora' 15 o alawon cerdd dant, cyhoeddwyd gan Y Lolfa [argraffiad cyntaf yn 1984]. Cynnwys: Moel Hiraddug; Porth y nant; Erw faen; Bryn Elwy; Ymadawiad y Brenin; Carnguwch; Gallt derw; Glan Clwyd; Treddafydd; Cefni; Gelliwig; Breuddwyd y Frenhines; Dyffryn Maelor; Y Faenol Bropor; Aberderfyn.

Hwyl ar y gân,

Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.

Llyfryn caneuon,

Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.

Deuawd telyn,

Llawysgrif, frasluniau a llungopïau o'r cyfansoddiad gan Gilmor Griffiths, 1976. Cyflwynwyd i Ceinwen, Telynores Dyfrdwy.

Darnau anhysbys i'r delyn,

Llawysgrif, lungopïau ac ychydig o frasluniau o ddarnau i'r delyn neu delynau. Cynnwys nifer o nodiadau a newidiadau. Nodyn ar yr amlen wreiddiol yn awgrymu bod y darnau, a'r nodiadau ar gyfer Ceinwen Stuart, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Hwyrgân yr Hydref,

Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].

Mary Carol,

Llungopïau o rannau offerynnau ensemble gwynt ar gyfer 'Mary Carol' gan Gilmor Griffiths.

Llyfr cerddoriaeth,

Llyfr cerdd yn cynnwys sgorau cerddoriaeth ar gyfer bandiau pres. Teitlau'n cynnwys, 'Judea', 'O deued pob Cristion' a 'Llanbedr'.

Amryw,

Pum braslun o sgorau dienw wedi eu trefni ar gyfer bandiau pres.

Canlyniadau 1 i 20 o 231