Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

[W. J. Gruffydd] at E. R. Appleton, BBC, Caerdydd,

Mae'n barod i ddarlledu apêl ar ran 'Cofeb Islwyn'. Bu mewn is-bwyllgor [darlledu] y noson flaenorol ac y mae'n feirniadol o gyfansoddiad y pwyllgor. Cred y dylai G. J. Williams a Tom Parry o'r Coleg, Dr Llewelyn Williams o'r Bwrdd Iechyd Cymreig a'r Parch. John Roberts, Pembroke Terrace, fod yn aelodau ohono. Syndod iddo oedd sylwi nad oedd R. T. Jenkins yn aelod ychwaith. Copi teipysgrif.

E. R. Appleton, BBC, Caerdydd,

Ymateb i lythyr 138 uchod. Ymddiheuro am golli'r pwyllgor. Amddiffyn cyfansoddiad y pwyllgor. Ceisiwyd cael amrywiaeth barn arno a phawb yn Gymry Cymraeg. Pwyllgor i drafod llenyddiaeth a drama yw'r un dan sylw yn unig. Gellid gwahodd rhai o'r bobl a enwyd i eistedd ar bwyllgorau eraill.

John Ballinger, Aberystwyth,

Trafodir apwyntiad [Prifathro newydd] yng Ngholeg Caerdydd. Awgryma ei fod yn bwriadu trafod y mater gydag aelodau yr is-bwyllgor dewis. Y mae'n hoffi yr argraffiad newydd o Perl mewn Adfyd. Yr oedd wedi bwriadu mynd i gyfarfod Llys Coleg Caerdydd drannoeth, ond ni all.

Charles W. Baty, Caer,

Nid wy'n gallu dweud os bu Ellis Wynne yn ddisgybl yn y 'King's School' ai peidio. Mae am ymgynghori â'r dyn sy'n gofalu am gofrestri'r ysgol.

Charles W Baty, Caer,

Yngl?n â'r ymholiad am Ellis Wynne. Nid yw ei enw'n digwydd yng nghofrestri swyddogol yr ysgol ond gallasai fod yn ddisgybl preifat er hynny.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Canmol Y Llenor. Cytuno â beirniadaeth W. J. Gruffydd ar berfformiad y ddrama 'Llywelyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Ar Miss Kate Roberts yr oedd llawer o'r bai am ddiffygion y perfformiad. Yr angen i fod yn barod i amddiffyn etifeddiaeth Cymru yn wyneb dylifiad y noddedigion (evacuees) o Loegr. Parch ymhlith Cymry Bangor at Gymreictod ar gynnydd yn dilyn dyfodiad y Saeson bach lleuog, budr, tlawd. Yn falch o glywed am bwyllgor sydd i'w gynnal yn Amwythig ddydd Gwener [Rhag. 1]. W. Ambrose Bebb yn cynnig nifer o awgrymiadau sut y gellid poblogeiddio llenyddiaeth Gymraeg.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Diolch am erthygl a ddychwelwyd. W. Ambrose Bebb yn cynnig anfon erthygl ar y Diwygiad Protestannaidd. Mae'n amau mai go sych oedd ei erthygl 'Ystyr Maes Bosworth' [Y Llenor, cyf XIX (1940), tt. 78-90.] Sylwadau W. Ambrose Bebb ar adolygiad R. T [Jenkins] ar ei lyfr [Cyfnod y Tuduriaid] yn [Y Llenor, Cyf. XIX (1940), tt. 102-6]. Y mae wedi derbyn nifer o lythyrau diddorol gan berthnasau iddo yn America at eu teuluoedd yng Nghymru. Cynnig eu dangos i W. J. Gruffydd os byth y daw heibio. Gofyn a dderbyniodd Dyddlyfr Pythefnos i'w adolygu.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Anfon ysgrif i'r Llenor ['Y Diwygiad Protestannaidd', cyf. XX (1941), tt. 25-30, 77-82]. Sylwadau W. Ambrose Bebb ar adolygiad R. T. [Jenkins] ar ei lyfr [Cyfnod y Tuduriaid] yn [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 102-6].

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Holi hynt ei ysgrif ar 'Achosion y Diwygiad Protestannaidd'. Canmol erthygl W. J. Gruffydd 'Mae'r Gwylliaid ar y ffordd' [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 112-26].

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Nodi ei siom na chyhoeddwyd ei ysgrif. Ofna iddi fynd yn angof. Nid yw'n cytuno bod holl arweinyddion y Blaid yn ffasgiaid. Gadawodd ef y Blaid oherwydd na chytunent ag ef fod Almaen Hitler yn anwar. Y mae'n mynegi hynny eto yn Dyddiadur 1940. Gofyn i W. J. Gruffydd anwybyddu gwallau yn y gyfrol honno. Un broflen a gafodd ef ac fe gysodwyd y llyfr yn ystod y 'dyddiau uffernoll' a gafodd Abertawe.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Mynegi ei siom o dderbyn yr ysgrif ar ei dad yn ôl. Mae'n barod i wella a chwtogi rhywfaint arni. Yn achos yr Etholiad, hoffai W. Ambrose Bebb weld cefnogwyr W. J. Gruffydd yn ymatal rhag gyrru pawb i 'ymlafnio mewn budreddi'. Buasai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd a Saunders [Lewis] yn gytun yn hytrach na gweld dau Gymro da yn ymgeisio yn erbyn ei gilydd. Cyhudda W. J. Gruffydd o gael ei ddefnyddio gan y 'myrdd gorachod di-enaid sydd yng Nghymru' er mwyn rhwystro Saunders [Lewis] i ennill y sedd. Ysgrifennodd at Saunders Lewis i ofyn iddo dynnu'n ôl ond yn ofer. Y mae'n rhy hwyr iddo ofyn i W. J. Gruffydd dynnu'n ôl, ond nid yw'n rhy hwyr i gyhoeddi na fynn weld yr etholiad yn cael ei ddefnyddio i bardduo neb. Y mae'n edrych ymlaen i glywed W. J. Gruffydd yn siarad pan ddaw i Fangor.

C. C. Bell, Llundain,

Mae C. C. Bell yn anfon cyfieithiad Saesneg o gerdd W. J. Gruffydd '1914-1918. Yr ieuainc wrth yr hen' [Ynys yr Hud ..., t. 44]. Mae'n gofyn caniatâd i gyhoeddi'r cyfieithiad mewn papur Saesneg. [Fe'i cyhoeddwyd yn y gyfrol H. I. Bell & C. C. Bell, Welsh Poems of the Twentieth Century in English Verse (Wrecsam, 1925), tt. 15-16.] Mae'n credu y byddai yn crisialu'r atgasedd cynyddol tuag at agwedd filitaraidd y Llywodraeth. Dangosodd gopi o'r fersiwn rhyddiaith i Mr Harold Monro, The Poetry Book Shop, ac yr oedd ef wedi ei blesio'n fawr ganddo. Yr oedd ef wedi dyheu i ddweud yn union yr un peth.

H. Idris Bell, Llanfairfechan,

Ymateb i feirniadaeth W. J. Gruffydd yngl?n â bwriad y Cymmrodorion i gyhoeddi'r Dwb [Y Bywgraffiadur Cymreig] yn Saesneg. Y prif ystyriaethau yn rhai ariannol dros wneud hyn. Bydd yn fodd i gyflwyno Cymru i'r byd. Mae galw am lyfrau Saesneg ar Gymru. Dadleuon dros gyhoeddi fersiwn Saesneg.

H. Idris Bell, Yr Amgueddfa Brydeinig,

Ateb ymholiad gan W. J. Gruffydd yngl?n â dyfyniad arbennig o waith Islwyn. Beirdd hanner cyntaf y 19 ganrif â dawn i ddyfynnu o weithiau llenyddol Saesneg gwael a di-nod. Mae'r dyfyniad yn debyg i waith George Eliot, ond methiant fu'r cais i'w olrhain. Hyderu y bydd i'r Llenor oroesi'r rhyfel gan ei fod yn anhepgor i Gymru.

Results 101 to 120 of 982