Papers relating to the donor's grandfather, Bishop John Owen, Bishop of St Davids, 1897-1926, including the order of service for his funeral, newspaper cuttings and a mini-biography by the donor, 2002.
Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.
Emyn-donau 'Cwm Rheidol' a 'Bronystwyth' gan Gwynfryn Y. Jones, organydd yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, ynghyd â llythyr, 1972, ato gan Dyfnallt Morgan a drosodd eiriau gwreiddiol Morswyn o'r Gymraeg i'r Saesneg iddo ('Rock of Ages').
Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.
Papers relating to the Panteidal Copper Mine near Aberdyfi, including 'An old Welsh coppper mine related item. An illustrated essay' by the donor, together with the original attendance and payment book, 1898-1899, discussed in this work, and other research material.
Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Bound report by H. F. H. Dolling, engineer to the Welsh Hospital Board, November 1970, relating to the adaptation of St Mary’s Hospital, Penarth, as a smallpox unit, including his drawings. It was the last smallpox hospital to be built in the UK before its eradication in 1977. Also included is a memorandum prepared from memory in 2009 by Professor Gareth Crompton, Chief Medical Officer for Wales, 1978-1989, and then Professor of Public Health at the University of Wales College of Medicine, which deals with the smallpox outbreak in Church Village and Bridgend in 1962.
Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].
Grŵp o lythyrau a dderbyniwyd gan John Roberts fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1960au a'r 1970au. Ymhlith y gohebwyr mae Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree a Dewi-Prys Thomas. = A group of letters received by John Roberts, Caernarfon, as organiser of the National Eisteddfod during the 1960s and 1970s. The correspondents include Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree and Dewi-Prys Thomas.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.
Papurau'r diweddar Barchedig J. E. Davies, gweinidog gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, a ffigwr amlwg yng Nghymdeithas y Cymod yng Nghymru. Ef oedd ysgrifennydd Cangen Rhydaman o Gymdeithas y Cymod a bu'n gadeirydd cenedlaethol y mudiad.
Rhaglenni cyngherddau y bu'r tenor enwog Richie Thomas (1906-1988), Penmachno, yn perfformio ynddynt, ynghyd â pheth gohebiaeth. = Concert programmes featuring the well-known tenor Richie Thomas (1906-1988), of Penmachno, together with some correspondence.
A research work prepared by Eilir Ann Daniels in June 2013 based on the book by her aunt Anna May Jones, Ellis Emmanuel Jones and Ellen Janes Evans; their ancestors and descendants (New York, 1970).