Showing 146 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate,
Print preview View:

Papurau teuluol

Papurau yn ymwneud â, ac a grynhowyd gan, aelodau o deulu Iorwerth Peate, 1847-1983, sef ei daid David Peate, ei frawd yntau Morris Peat, George H. Peate, Nansi Peate a Dafydd Peate. Ymhlith y papurau ceir dyddiaduron, llyfrau nodiadau a llythyrau.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1873-1978, yn ymwneud â theulu Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau yn bennaf sydd wedi eu cyfeirio at amryw o'r teulu, ac yn eu plith ceir llythyrau gan berthnasau yn yr Unol Daleithiau, megis Maurice Pate (3); brawd Iorwerth Peate, Dafydd; ei dad George H. Peate; David Peate; a llythyr, 1930, gan Iorwerth Peate at ei chwaer Morfudd gyda chopi o'r gerdd 'Adar To yn Chwefror'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cytundeb, 1873, rhwng David Peate ac Evan Davies ynglŷn â gosod Glanllyn; ewyllys ei fam Elizabeth Peate, 1939; a thaflenni gwasanaethau coffa ac angladd aelodau'r teulu, 1974, 1977-1978.

Pate, Maurice, 1894-

David Peate

Papurau yn ymwneud â David Peate yn bennaf, 1848-1901 a 1949, gan gynnwys rhediad helaeth o'i ddyddiaduron, 1848-1895, ynghyd â chyfrifon, llyfr nodiadau, llythyrau ato, a chyfrol yn ymwneud â Chapel Llanbrynmair. -- Mae'r dyddiaduron cynharaf yn cofnodi pregethwyr a'u testunau ar y Sul, a nifer o enedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol. Ceir mwy o fanylion am waith David Peate a lle bu'n gweithio ar ôl 1856. Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at ei deulu, newyddion lleol, a chyfrifon.

Peate, David, 1831-1896.

Dyddiadur : 1875

Dau ddyddiadur, 1875, sef Dyddiadur yr Annibynwyr a Blackwood's Shilling Scribbling Diary. Mae rhai tudalennau ar goll o'r un gyntaf.

Dyddiadur : 1880

Dyddiadur yr Annibynwyr a T. J. & J. Smith's Commercial Scribbling Diary, 1880.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Results 81 to 100 of 146