Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W ...,

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W. J. Gruffydd at aelodau o'i deulu ym Methel, ger Caernarfon, tra'r gweddill wedi eu hanfon at W. J. Gruffydd, gan gynnwys rhai yn llaw R. W[illiams] P[arry], Rhys J. Huws, [T.] Gwynn [Jones], [R.] Silyn [Roberts] a [J.] Dyfnallt [Owen].

'Uncle O',

Dinorwig. Dweud beth sydd ar garreg fedd 'Glan Padarn' a'i wraig Mary. Manylion amdano. Bu farw Mary yn 1878 yn 28 oed ac yna priododd ei chwaer. Bu iddo ddau fab. Disgrifiad corfforol ohono. Bu mewn ysgol yn Nulyn a Rhuthun. Bu'n gweithio am gyfnod byr ym Mhenbedw. Aeth yn aberth i 'nychdod' yn gynnar iawn. Roedd llais tenor swynol ganddo. Cadwai ei freichiau yn syth i lawr pan âi i hwyl. Dywedodd 'Llew Llwyfo' lawer gwaith mai'r tri bardd mwyaf canadwy oedd 'Ceiriog', 'Mynyddog' a 'Glan Padarn'. Arferai gyfansoddi alawon i'w siwtio ei hun o ran llais. Nid yw'r alawon hyn wedi eu cyhoeddi. Sgets o'r garreg fedd.

'Another Celt', Somewhere in Scotland,

Hoffai petai W. J. Gruffydd a Syr Arnold Gridley yn gwrthwynebu'r Bil Hydro-Electric Albanaidd. Nid yw'r Sais cyffredin yn malio am Ucheldiroedd yr Alban. Mae dros bedair miliwn o aceri ar gyfer ceirw ac adar i'w saethu - cymaint â maint deg o siroedd yr Alban ar gyfartaledd. Mae yna filoedd o bobl heb dir a hoffai weithio mewn amaethyddiaeth. Ni ellir cael digon o dir i bori un buwch arno i gyflenwi digon o laeth. Caiff y plant y darfodedigaeth a'r tir o'u cwmpas yn pydru dan y ceirw. Mae'r Torïaid yn rheoli yn yr Ucheldiroedd. Cyfeiriad at ddeddf 1911 'The Scottish Small Landholders Act' a'r gwaith da a wnaethpwyd ar y cychwyn i greu tiroedd a thyddynnod allan o'r fforestydd ceirw. Dylid gofyn i Ysgrifennydd Gwladol yr Alban paham nad yw'r gwaith hwn yn parhau. Paham na fedrid defnyddio'r 30 miliwn o bunnau i greu cartrefi a thiroedd i'r milwyr sy'n dychwelyd o'r rhyfel. Ni all roi ei enw a'i gyfeiriad oherwydd ei fod yn dal swydd arbennig.

[W. J. Gruffydd , Llundain at ? Y Llywodraeth],

Llythyr sy'n gwrthwynebu'r chwarel ar safle castell Clegyr Voia ger Tyddewi. Mae'n ysgrifennu ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru i weld beth ellir ei wneud i ddiogelu'r hen safle yn wyneb y tyllu a'r gwaith o gario cerrig oddi yno i greu maes awyr Tyddewi. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd y safle ers dros fil o flynyddoedd a'r cysylltiad â Dewi Sant. Gofyn i'r llywodraeth i wrthod hawl i dyllu mwy ar ôl gorffen y maes awyr er mwyn diogelu'r hyn sy'n weddill. Dylid rhoi cymal ymhob cytundeb i dyllu am dywod, calch, etc., yn caniatâu i'r Adran Henebion gael archwilio'r safle cyn i'r gwaith ddechrau. Mae'n deall nad oedd angen agor chwarel Clegyr Voia yn yr achos hwn gan fod digon o chwareli tebyg cyfagos ar gael. Copi teipysgrif.

Frances [?],

Mae'n ddrwg ganddi am bopeth. Roedd hi'n casáu'r Western Mail ddydd Mawrth a gwrthododd ei agor tan yn hwyr yn y dydd. Yr oedd wedi gobeithio cymaint y byddai popeth yn iawn i W. J. Gruffydd.

[Di-enw], Abertawe,

Mae'n cofnodi ffeithiau yngl?n â diswyddiad Saunders Lewis. Yr oedd un ar ddeg dros ei ddiswyddo a deg yn erbyn. Ymddangosai fod Saunders Lewis am gario'r dydd ond bygythiodd Lewis Jones, A.S., y gwelai ef fod Coleg Abertawe yn fethdalwr o fewn chwe mis pe na chai Saunders Lewis ei ddiswyddo. Dyna sut y llwyddwyd i ennill y bleidlais. Roedd o leiaf ddau o gefnogwyr Saunders Lewis yn absennol. Fe arwyddwyd deiseb o blaid Saunders Lewis gan holl aelodau staff Coleg Abertawe ar wahân i'r Prifathro, yr Athro Bacon a'r Jiwdas hwnnw yr Athro [Henry] Lewis. Fe siaradodd yr aelodau hynny o staff sydd ar y Cyngor o'i blaid. Gall athrawon a staff yr adrannau Cymraeg eraill a rhai Celteg Iwerddon wrthod arholi tan ailbenodir Saunders Lewis. Canlyniad hynny fyddai i'r diwydiannwyr ddal yn ôl eu £2,500 y flwyddyn. Cafodd y wybodaeth yn gyfrinachol gan gyfaill sydd â'i ewythr ar Gyngor y Coleg. Nid yw Dr Stevens ar y Cyngor yn awr ond y mae ei wraig, Dr Mary Williams yn gefnogol i Saunders Lewis. Awgryma y dylai W. J. Gruffydd ei ffônio hi i gael cadarnhad fod y ffeithiau'n gywir. Pe cyhoeddid yr hanes am fygythiad Lewis Jones yna byddai ymateb chwyrn a gallai Saunders Lewis fynd yn ôl i'w swydd yn sgîl hynny. Mae'r Athro [Henry] Lewis am fod yn Is-Brifathro y Sesiwn dilynol, dyna paham y mae ef yn gyfeillgar â'r gelyn.

[Di-enw] 'Dros Gymru', [Abertawe],

Cafodd wybodaeth yngl?n â phenodiad [Melville] Richards a diswyddiad J. S[aunders] Lewis. Cafodd Senedd Coleg Abertawe ei chamarwain. Nid y Senedd a fu'n apwyntio ond pwyllgor wedi ei ddewis gan y Prifathro, sef y Prifathro H[enry] Lewis a Mary Williams. Mae'r Cyngor yn ofni y bydd y mater yn gorfod mynd o flaen Llys y Brifysgol ac oddi yno i Gyngor y Brifysgol. Os felly fe brofid bod penodiad [Melville] Richards yn annilys. Byddai hyn yn caniatâu i Saunders Lewis gael ei le yn ôl yr eilwaith.

'Cymro' gwaed Coch cyfan!,

Mae'n iawn i gredu nad oes gan Archesgob Cymru [Alfred George Edwards] unrhyw gydymdeimlad â'r iaith Gymraeg. Penododd Ll. Wynne Jones, Cymro di-Gymraeg yn archddiacon ac yn Ddeon Llanelwy a chafwyd protestio mawr. A phan ymddiswyddodd y Deon yn ddiweddar fe benododd Sais yn ei le. Penododd offeiriaid Saesneg yn y Rhyl, Bae Colwyn, etc. Mae hyn i gyd yn dangos ei fod yn anwybyddu'r iaith yn llwyr. Mae hefyd wedi penodi ei fab yn Ganghellor yr Esgobaeth ac yn Gofrestrydd y Llys Prawf, er i hwnnw fethu fel bargyfreithiwr. Rhestrir nifer o enghreifftiau eraill o ffafrio perthnasau. Nid oedd un o'i blant yn medru'r Gymraeg. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn haeddu'r feirniadaeth a fu arno yn Y Llenor.

[W. J. Gruffydd at Gofrestrydd Coleg Caerdydd, D. J. A. Brown],

Adroddiad ar staffio Adran y Gymraeg. Pwysleisio pwysigrwydd dysgu Cymraeg yn y pedwar coleg oherwydd na wneir hynny yn unman arall. Mae dyletswydd ar ddarlithwyr Cymraeg i gynhyrchu testunau ar gyfer eu dosbarthiadau. Mae'n amlinellu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu'r Wyddeleg ac astudiaethau Gwyddelig yn Iwerddon. Mae'n cynnwys siart yn dangos y staffio yn adrannau'r colegau eraill a'r nifer cyfatebol o fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg. Maent i gyd yn tanlinellu mai adran Caerdydd sy'n dioddef fwyaf. Copi teipysgrif.

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei gyfeiriadau caredig ato yn Y Llenor. Mae pawb sy'n ceisio gweithio'n gydwybodol yn hoffi cael clap ar ei gefn yn y byd hwn. Mae'n edmygu W. J. Gruffydd yn fawr fel bardd, llenor, gweledydd a meddyliwr gafaelgar. Bu yn y Wladfa a theimla y dylai Cymru ddeffro i borthi'r miloedd sydd yno yn well, eu porthi'n llenyddol. Dylai rhyw lenor mawr fynd allan yno a rhyw gerddor gwych, heb sôn am efengylwr. Rhaid achub miloedd Cymry Ariannin oherwydd trwy eu hachub hwy ceir allwedd i efengyleiddio Argentina a De America i gyd. Dylid anfon mwy o negesau iddynt yn Gymraeg dros y radio.

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Mae'n anfon cyfrol o gerddi i blant - 'ychydig o felysion ar adeg prinder melysion!' Efallai y bydd y gyfrol yn gymorth i gadw'r Gymraeg yn fyw. Bechgyn Talfan sy'n gyfrifol am ei chyhoeddi. Teimlodd chwant anfon copi i W. J. Gruffydd yn rhodd fel un sy'n caru Cymru. [Darlun a Chân].

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Diolch am groeso mor garedig i aelwyd anrhydeddus Y Llenor. ['Ar y Ffordd i Dal-y-llychau', Y Llenor cyf. XIX (1940), t. 68]. Cafodd ias a lawenydd hefyd pan ddarllenodd nodiadau eirias, gwrol a gonest W. J. Gruffydd. Nid oes agwedd arall yn bosibl heddiw. Mwynhaodd 'Bethesda'r Fro' gan W. J. Gruffydd hefyd yn yr un rhifyn [tt. 72-7].

'Bill' [William J. Williams], Caerdydd,

Awgrymwyd enw W. J. Gruffydd ar gyfer bod yn gynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor yr Ysgolion Bonedd. Byddai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Ail-lunio and nid yw ei enw wedi ei gynnwys ar gyfer hwnnw. Cyhoeddwyd yr enwau yn Nhy'r Cyffredin y noson cynt. Y mae William J. Williams ei hunan ar y pwyllgor hefyd. Mae'n trefnu iddynt fynd i Aberteifi ddydd Mawrth Gwyl y Banc a daw Wheldon i lawr gyda William Thomas. Mae Tom Owen yn holi os oes modd iddynt aros yn Abergwaun. Y syniad yw mynd i Aberteifi ddydd Mawrth neu ddydd Mercher a dychwelyd ddydd Iau neu ddydd Gwener.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Diolch am ei ymateb i'r llythyr blaenorol [894 uchod] ac am ei awgrym amserol. Amgaeir rhestr o'r personau o'r tu allan i'r Orsedd. Gan fod 17 Ionawr yn anhwylus i rai, a fyddai 10 Ionawr yn hwylusach? Trefnir y cyfarfod am 2.30 p.m. Rhestr o bedwar enw ar ddeg a wahoddwyd i'r gynhadledd yn Amwythig. Cylchlythyr teipiedig.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Mae'r Orsedd yn ymgynghori â gwyr amlwg ym mywyd Cymru sydd y tu allan i'r Orsedd i weld y modd gorau i sicrhau eu cydweithrediad er mwyn ehangu gwasanaeth a dylanwad yr Orsedd fel gallu cenedlaethol. Penderfynodd yr Orsedd godi Pwyllgor Arbennig a chael nifer cyfatebol o Gymry amlwg i'w cyfarfod mewn cynhadledd. Cynhelir hon ar 17 Ionawr 1930 yn Amwythig a gwahoddir W. J. Gruffydd i fod yno. Rhestrir swyddogion yr Orsedd. Ni thrafodir cyfansoddiad yr Orsedd, ei phasiant na'r defodau cysylltiol. Cylchlythyr teipiedig.

W. Williams, Llandudno,

Arferai fod yn Arolygydd Ysgolion o dan Syr Owen Edwards. Y mae wedi ymddeol o'r gwaith hwnnw ers dros ddeng mlynedd. Darllenodd Y Tro Olaf gan W. J. Gruffydd gyda blas. Mae'r hyn a ddywed am 'Hedd Wyn' wedi ei annog i ysgrifennu ato. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a'r cynganeddion ond methodd erioed â chael blas ar ddarllen gwaith 'Hedd Wyn'. Ni chafodd 'afael' ar awdl y 'Gadair Ddu' ychwaith. Wedi darllen ysgrif W. J. Gruffydd y mae wedi codi ei galon. Mwynhaodd hefyd yr ysgrif 'Y diweddar Pontius Pilat' a'r sôn am Fair o Fagdala. Dywed H. P. Latham yn ei lyfr The Risen Master nad oes sicrwydd mai yr un oedd hi i'r 'bechadures' y ceir sôn amdani yn Luc vii, 37-50, na bod lle i amau ei diweirdeb. Mae'r dehongliad o'r modd yr atgyfododd yr Iesu yn cydfynd â dehongliad Pwyllgor Caerdydd o Ioan xx, 7. Cafodd bleser mawr o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Mae'n darllen fel rhamant.

Results 61 to 80 of 982