Showing 76 results

Archival description
Papurau Marion Eames,
Advanced search options
Print preview View:

Addasiadau o weithiau Marion Eames,

Papurau'n ymwneud ag addasiadau radio, llwyfan a theledu o rai o weithiau Marion Eames, 1981-[2007], yn cynnwys I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; ac Y Stafell Ddirgel, 2001. = Papers relating to radio, stage and television adaptations of works by Marion Eames, 1981-[2007], comprising I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; and Y Stafell Ddirgel, 2001.

I Hela Cnau,

Papurau'n ymwneud ag addasiad radio o nofel Marion Eames, I Hela Cnau, 1981, gan gynnwys sgriptiau o benodau 1-6 a chyfieithiad Saesneg o bennod 6. = Papers relating to the radio adaptation of the novel, I Hela Cnau, 1981, by Marion Eames, including scripts of episodes 1-6 and an English translation of episode 6.

Plentyn Di-gartref,

Papurau'n ymwneud ag addasiad llwyfan o ddrama radio gan Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], gan gynnwys sgript o'r addasiad, cyfarwyddiadau llwyfan a chopi o'r sgript radio wreiddiol. = Papers relating to a stage adaptation of the radio play by Marion Eames, Plentyn Di-gartref, [1985x2007], including a script of the adaptation, notes on stage direction and a copy of the original radio script.

Y Ferch Dawel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu o nofel Marion Eames, Y Ferch Dawel, 1996, gan gynnwys drafftiau o'r sgript, amserlen ffilmio, sgript is-deitlau a nodiadau ar y prif gymeriadau. = Papers relating to the television adaptation of the novel, Y Ferch Dawel, 1996, by Marion Eames, including various drafts, a filming schedule, a subtitle script, and descriptions of the main characters.

Y Stafell Ddirgel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Manon Eames o nofel wreiddiol Marion Eames, Y Stafell Ddirgel, gan gynnwys sgriptiau penodau 1-6, rhestrau o fewnosodiadau a newidiadau i'r sgript, amserlen ffilmio a datganiad i'r wasg gan S4C yn lawnsio'r ddrama. = Papers relating to the television adaptation by Manon Eames of Marion Eames's original novel, Y Stafell Ddirgel, including scripts of episodes 1-6, lists of additions and changes to the script, a filming schedule and a press statement by S4C launching the drama.

Erthyglau, anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o erthyglau, anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007]. = Drafts of various articles, speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007].

Erthyglau,

Drafftiau o erthyglau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-2001, gan gynnwys erthyglau yn trafod hanes Dafydd Lloyd, cyfreithiwr a Crynwr o Gymru, a Gustav Mahler. = Drafts of various articles by Marion Eames, [1970]-2001, including articles relating to Dafydd Lloyd, a lawyer and Quaker from Wales, and Gustav Mahler.

Anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007], yn sôn am ei nofelau a'i bywyd, ac yn trafod pynciau megis hanes y Crynwyr yng Nghymru. = Drafts of various speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007], discussing her life, her writing and topics such as the history of the Quakers in Wales.

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil,

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil Marion Eames, 1934-[2000], gan gynnwys llyfrau nodiadau ysgol, ymchwil i gefndir hanesyddol ei nofelau, a nodiadau amrywiol eraill. = Notebooks and research papers of Marion Eames, 1934-[2000], including school notebooks, research into the historical background of her novels, and various other notes.

Llyfrau nodiadau ysgol,

Llyfrau nodiadau ysgol Marion Eames, 1934-1938, yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth a barddoniaeth. Ceir hefyd rhai nodiadau cyffelyb yn llaw ei chwaer, Dorothy. = School notebooks belonging to Marion Eames, 1934-1938, containing notes on literature and poetry. The notebooks also contain notes in the hand of her sister, Dorothy.

Llyfrau nodiadau amrywiol,

Llyfrau nodiadau amrywiol, 1953-[1990], yn cynnwys rhai gweithiau anorffenedig di-deitl; drafftiau bras nifer o erthyglau; a detholiadau o weithiau hanesyddol a llenyddol. = Various notebooks, 1953-[1990], containing unfinished untitled works; rough drafts of numerous articles; and extracts from historical and literary works.

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1955-1956, yn cynnwys nodiadau ar dechneg piano a rhestrau o enwau'r plant ac oedolion oedd yn derbyn gwersi piano ganddi yn Llundain. = A notebook, 1955-1956, containing notes on piano technique and lists of the names of those who received piano lessons from her in London.

Llyfrau nodiadau ar hanes y Crynwyr,

Llyfrau nodiadau, [1961]-[1969], yn cynnwys gwaith ymchwil Marion Eames ar hanes y Crynwyr yng Nghymru ac ym Mhennsylfania ar gyfer y nofelau Y Stafell Ddirgel ac Y Rhandir Mwyn. = Notebooks, [1961]-[1969], containing research conducted by Marion Eames into the history of the Quakers in Wales and Pennsylvania in preparation for writing the novels Y Stafell Ddirgel and Y Rhandir Mwyn.

I Hela Cnau,

Llyfrau nodiadau, 1972, yn ymwneud â'r nofel I Hela Cnau, gan gynnwys ymchwil i gefndir hanesyddol y nofel a chyfieithiad Saesneg anghyflawn o'r gwaith. = Notebooks, 1972, relating to the novel I Hela Cnau, containing research into the historical background of the novel and an incomplete English translation of the work.

Y Gaeaf Sydd Unig,

Papurau ymchwil Marion Eames ar gyfer ei nofel, Y Gaeaf Sydd Unig, [1980x1982], gan gynnwys nodiadau llawysgrif ar hanes Llywelyn ap Gruffydd a'r Oesoedd Canol, a chopïau o erthyglau perthnasol. = Research conducted by Marion Eames relating to her novel, Y Gaeaf Sydd Unig, [1980x1982], including handwritten notes on the history of Llywelyn ap Gruffydd and the Middle Ages, and copies of related articles.

A Private Language?,

Gwaith ymchwil ar gyfer A Private Language?, [1992x1997], gan gynnwys erthyglau gan R. Geraint Gruffydd ar waith Dafydd ap Gwilym; copïau o nifer o gerddi Cymraeg a'u cyfieithiadau Saesneg; nodiadau ar y gynghanedd; a drafft o bennod fer ar William Williams, Pantycelyn, ac Ann Griffiths. = Research for A Private Language?, [1992x1997], including articles by R. Geraint Gruffydd on the work of Dafydd ap Gwilym; copies of numerous Welsh poems and their English translations; notes on the 'cynghanedd'; and a draft of a short chapter on William Williams, Pantycelyn, and Ann Griffiths.

Nodiadau crefyddol,

Nodiadau'n ymwneud â chrefydd, [1977]-[1990], gan gynnwys nodiadau ar waith Hans Kung, 'On Being A Christian'. = Notes relating to religion, [1977]-[1990], including notes on Hans Kung, 'On Being A Christian'.

Nodiadau amrywiol a manion,

Nodiadau amrywiol a manion,[1960]-[2000], yn cynnwys pecyn o nodiadau ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar, ynghyd â nodiadau rhydd ac erthyglau ar eu hanner. = Various notes and miscellaneous jottings, [1960]-[2000], including notes on the history of Wales in the Middle Ages and in the early modern period, together with loose notes and incomplete articles.

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig, 1929-2007, yn cynnwys erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998; torion amrywiol o'r wasg, 1954-2007; adolygiadau o'i gwaith a chyfweliadau, 1969-2001; ynghyd â pamffledi a llyfrynnnau yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames i'r Unol Daleithiau yn 1984. = Printed materials, 1929-2007, comprising articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998; various press cuttings, 1954-2007; reviews of her work and interviews, 1969-2001; together with pamphlets and booklets relating to her visit to the United States in 1984.

Erthyglau a storïau byrion,

Torion o'r wasg o erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998, gan gynnwys storïau a ysgrifennwyd ganddi yn blentyn a'u cynhwyswyd yn The Daily Courier. = Press cuttings of articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998, including stories written by her as a child which appeared in The Daily Courier.

Results 41 to 60 of 76