Showing 68 results

Archival description
Papurau T. J. Morgan,
Print preview View:

Papurau T. J. Morgan,

  • GB 0210 TJMORGAN
  • fonds
  • 1862-1987 (crynhowyd [1940]-1986) /

Casgliad o lythyrau a chyfansoddiadau a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cynnwys yn Y Llenor, 1891-1988. Ceir hefyd bapurau a gasglwyd gan T. J. Morgan, sef papurau Llewellyn Llewellyn (Llywelyn Ddu o Lan Tawe), Abertawe, [c. 1880]-[c. 1924]; papurau'r Parch Ben Davies, Panteg, 1862-1964; ychydig o bapurau R. G. Berry a phapurau T. J. Morgan ar R. G. Berry, 1885-1962; a thair cyfrol o dorion papur newydd, 1850-1950.

Morgan, T. J.

Cyfrolau amrywiol

Pedair cyfrol o ddeunydd amrywiol, ond gan fwyaf o doriadau papur newydd. Mae tair cyfrol yn cynnwys toriadau o gerddi ar ben nodiadau eraill - dau yn cynnwys yr enw Evan Davies, Pentrebach, ac un yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, heb eu dyddio. Mae'r bedwaredd gyfrol yn cynnwys cyfrifon Miss E. E. Lewis a Margaret Lewis, Mr David H. Lewis, ac ystâd Plasmarl, 1891-1903, a thoriadau allan o'r Darian, 1916, a thoriadau yn ymwneud â choginio, heb eu dyddio.

Evan Davies

Dwy gyfrol gyda'r enw Evan Davies ynddynt, un ohonynt yn cynnwys cerddi ac ysgrifau llawysgrif yn ogystal â thoriadau papur newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r toriadau heb eu dyddio, ond mewn un gyfrol ceir rhai dyddiadau rhwng 1863 a 1934, ac yn y gyfrol arall ceir rhai dyddiadau rhwng 1889 a 1890.

Annie Davies

Cyfrol yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, yn cynnwys toriadau papur newydd, 1892-1928 ac heb ddyddiad.

Cyfrol amrywiol

Cyfrol o gyfrifon, 1891-1903. Defnyddiwyd y gyfrol hefyd fel llyfr lloffion ar gyfer dau gasgliad o doriadau papur newydd: Y Darian, c. 1916; a thoriadau gan fwyaf o ryseitiau coginio, heb eu dyddio.

Papurau Ben Davies

Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.

Davies, Ben, 1864-1937

Llys y Llyfrgell

Cofnodion cyfarfod Llys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1945, ynghyd â llythyr yn cyhoeddi'r cyfarfod a mantolen, 1945.

Papurau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd', drafft teipysgrif o'r ddrama 'Cartref y Gweithiwr', drafft llawysgrif o'r ddrama 'Tywyll a Golau' a phapurau rhydd o hanesion byrion, pob un heb eu dyddio.

'Yr Hen Dŷ'

Drafft llawysgrif, a drafft teipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd' heb eu dyddio.

Results 1 to 20 of 68