Showing 53 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog

  • GB 0210 MORBYCH
  • fonds
  • 1880-1997

Mae'r casgliad yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud ag Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, gan gynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1942-1997; llyfrau'r Eisteddleoedd, 1880-1972; hanes y Capel; llyfr casgliad chwarterol y Gronfa Ganolog, 1931-1957; a llyfr casgliad y Weinidogaeth, 1906. Ceir hefyd cofysgrifau'r Ysgol Sul yn cynnwys llyfrau cyfrifon unffurf, 1902-1977; llyfrau cyfrifon, 1908-1970; llyfr cofnodion, 1932-1960; a llythyrau aelodaeth, 1900-1906.

Eglwys Nasareth (Morfa Bychan, Wales)

Llyfrau cyfrifon unffurf

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cyfrifon unffurf, oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel 'Llyfr yr Athro'. Ceir ynddynt wybodaeth am enwau'r disgyblion a'u cartrefi, presenoldeb yn yr Ysgol Sul, casgliad, a nifer yr adnodau oedd yn cael eu hadrodd. Mae'r cyfrolau bychain yn cynrychioli pob dosbarth yn unigol ar gyfer pob blwyddyn, 1948-1977. Ceir hefyd cyfrolau yn cynnwys y dosbarthiadau i gyd rhwng y blynyddoedd 1902-1910, 1913-1920, 1920-1926 a 1938-1946.

Results 1 to 20 of 53