Dangos 1587 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Aelodaeth: etholiadau, 1990-1992

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud ag ethol aelodau newydd i'r Adran Gymraeg ym 1990-1991. Mae'n cynnwys llythyrau gan Eirian Davies, Mathonwy Hughes, Glyn Tegai Hughes a Owen E. Evans yn derbyn eu henwebiadau a Dyfnallt Morgan, Derec Llwyd Morgan a Jane Edwards yn gwrthod.

Morgan, Dyfnallt, 1917-1994

Cais Nobel Saunders Lewis

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chais yr Academi i ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth i Saunders Lewis yn ystod y 1970au a'r 1980au, syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Vernon Jones, athro yn Ysgol Y Berwyn Y Bala, ym 1966. Mae'n cynnwys gohebiaeth a deisebau yn erfyn cefnogaeth unigolion dylanwadol o gylchoedd gwleidyddol, crefyddol ac academaidd, yn ogystal â chopïau o'r cais gwreiddiol ar gyfer 1971 a chais diwygiedig ar gyfer 1977. Parhawyd i gyflwyno'r cais tan o leiaf 1981.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Canlyniadau 121 i 140 o 1587