Showing 839147 results

Archival description
Advanced search options
Print preview View:

9559 results with digital objects Show results with digital objects

'The Etruscan Smile'

Papurau (1989-1991), yn cynnwys gohebiaeth, teipysgrifau, a thoriadau, yn ymwneud â chynhyrchu sgript ar gyfer drama wedi'i theitlo 'The Etruscan Smile', yn seiliedig ar nofel anghyhoeddedig Emyr Humphreys, 'Delicate Matters'/'Delicate Mistakes'. / Papers (1989-1991), including correspondence, typescripts, and cuttings, relating to the production of a script for a drama titled 'The Etruscan Smile', based on Emyr Humphreys' unpublished novel 'Delicate Matters'/'Delicate Mistakes'.

Drafftiau teipysgrif gyda nodiadau / Typescript drafts with notes

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau, brasluniau a nodiadau yn llaw Emyr Humphreys, o sgript ar gyfer drama wedi'i theitlo 'The Etruscan Smile' (1989), ynghyd â theipysgrif bellach o sgript o'r enw 'Delicate Mistakes, Elemental Powers' ( 1991), a thudalennau o nodiadau a chyfieithiadau yn Eidaleg. / A typescript draft, with annotations, sketches and notes in the hand of Emyr Humphreys, of a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’ (1989), together with a further typescript of a script titled ‘Delicate Mistakes, Elemental Powers’ (1991), and pages of notes and translations in Italian.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif ([?1995]) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Rhodd Mam'. / A typescript ([?1995]) of a script for a film for television titled 'Rhodd Mam'.

'Yr Eneth Fwyn'

Teipysgrif ([?1997]) o sgript gan Emyr Humphreys gyda'r teitl ‘Yr Eneth Fwyn’, ffilm deledu yn seiliedig ar y stori ‘A Gentle Creature’ gan Fyodor Dostoyevsky. Darlledwyd gan y BBC ar 30 Medi 1997. / A typescript ([?1997]) of a script by Emyr Humphreys titled ‘Yr Eneth Fwyn’, a film for television based on the story ‘A Gentle Creature’ by Fyodor Dostoyevsky. Broadcast by the BBC on 30 September 1997.

'Angel o'r Nef'

Teipysgrifau (1984-1985) yn ymwneud â chynhyrchu'r ddrama deledu 'Angel o'r Nef', a ddarlledwyd ar S4C, 17 Rhagfyr 1985. / Typescripts (1984-1985) relating to the production of the television drama 'Hualau', transmitted on S4C, 17 December 1985.

'Teulu Helga'

Teipysgrifau (1986) yn ymwneud â chynhyrchu'r ffilm deledu 'Teulu Helga'/'Helga's Family', a ddarlledwyd ar S4C, 2 Mawrth 1986. / Typescripts (1986) relating to the production of a film for television 'Teulu Helga'/'Helga's Family', transmitted on S4C, 2 March 1986.

'Cwlwm Cariad'

Teipysgrif o rannau 1 a 2 o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl 'Cwlwm Cariad', a ddarlledwyd ar S4C, 5 Mai 1987. / A typescript of parts 1 and 2 of a script for a television drama titled 'Cwlwm Cariad', transmitted on S4C, 5 May 1987.

Drafft teipysgrif gyda chywiriadau / Typescript draft with corrections

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau a chywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl 'Yr Alltud' ([?1989]), ynghyd â chopi o amserlenni Darlledu a Dyrannu Radio Cymru, 1993, a thudalennau o sgript arall wedi'i theitlo 'Gwen's Wedding'. / A typescript draft, with annotations and corrections, of a script for a television drama titled ‘Yr Alltud' ([?1989]), together with a copy of Radio Cymru Transmission and Allocation schedules, 1993, and pages from another script titled ‘Gwen’s Wedding’.

'From a Writer's Notebook'

Un drafft teipysgrif ac un llawysgrif o sgript gyda'r teitl 'From a Writer's Notebook', ynghyd â nodiadau ac amlinelliadau o leoliadau posibl ([1999]), a dau ddrafft teipysgrif pellach, gyda chywiriadau yn llaw Emyr Humphreys a rhestr o leoliadau ac awgrymiadau cerddoriaeth (1999). / One typescript and one manuscript draft of a script titled ‘From a Writer’s Notebook’, together with notes and outlines of possible locations ([1999]), and two further typescript drafts, with corrections in the hand of Emyr Humphreys and a list of locations and music suggestions (1999).

'Rhodd Mam'

Papurau (1965; 1995), yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, yn ymwneud â chynhyrchu sgript o ffilm ar gyfer y teledu wedi'i theitlo 'Rhodd Mam' gan Emyr a Siôn Humphreys. Darlledwyd gan S4C yn 1995. / Papers (1965; 1995), consisting mainly of typescripts, relating to the production of a script of a film for television titled 'Rhodd Mam' by Emyr and Siôn Humphreys. Transmitted by S4C in 1995.

'A Necessary Figure'

Papurau (1970; [?1973]), yn ymwneud â chynhyrchiad teledu o’r enw ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, yn cynnwys tri drafft teipysgrif o sgript deledu a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys; nodiadau llawysgrif yn llaw yr un; a theipysgrif arall gyda’r teitl ‘Outline of a Necessary Figure’. / Papers (1970; [?1973]), relating to a television production titled ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, including three typescript drafts of a television script written by Emyr Humphreys; manuscript notes in the hand of the same; and a further typescript titled ‘Outline of a Necessary Figure’.

'Ŵyn i’r Lladdfa'

Drafft teipysgrif (1983), gyda chywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu o’r enw ‘Ŵyn i’r Lladdfa’, a ddarlledwyd ar S4C, 1 Mawrth 1984. / A typescript draft (1983), with corrections, of a script for a television drama titled ‘Ŵyn i’r Lladdfa’, transmitted on S4C, 1 March 1984.

'Byw yn Rhydd'

Papurau (1958-1988), yn cynnwys sgriptiau, drafftiau, a nodiadau, yn ymwneud â chynhyrchiad teledu o'r enw 'Byw yn Rhydd', drama yn seiliedig ar nofel Emyr Humphreys 'Jones' (Llundain: J. M. Dent, 1984) ac a ddarlledwyd ar y 18 Rhagfyr, 1984. / Papers (1958-1988), including scripts, drafts, and notes, relating to a television production titled 'Byw yn Rhydd', a drama based on Emyr Humphreys' novel ‘Jones’ (London: J. M. Dent, 1984) and transmitted on the 18 December, 1984.

Sgriptiau ar gyfer teledu / Scripts for television

Sgriptiau ([?1936] -[2006]), a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys ac eraill, yn cynnwys yn bennaf sgriptiau ar gyfer dramâu a ddarlledwyd neu y bwriedir eu darlledu ar y teledu ynghyd â phapurau cysylltiedig gan gynnwys nodiadau a gohebiaeth. Cynhyrchwyd rhai o'r sgriptiau gan y cwmni Ffilmiau Bryngwyn. / Scripts ([?1936] -[2006]), written by Emyr Humphreys and others, consisting mainly of scripts for dramas broadcast or intended to be broadcast on television together with related papers including notes and correspondence. Some of the scripts were produced by the Ffilmiau Bryngwyn company.

Cynyrchiadau teledu amrywiol / Various television productions

Papurau’n ymwneud â rhaglen deledu gyda’r teitl ‘The Celts – Chronicle’, gan gynnwys rhestr o luniau a rholiau camera, a nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn llaw Humphreys. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau sy’n ymwneud â chynyrchiadau teledu eraill lle bu Emyr Humphreys yn gysylltiedig, gan gynnwys rhestr camera ar gyfer rhaglen gyda'r teitl ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, ynghyd â nodiadau; rhestrau cast, amserlen stiwdio, a threfn rhedeg ar gyfer cynhyrchiad gyda'r teitl ‘Gwrthwynebwyr’/'Pearse a Connolly' (1974); a chynlluniau llwyfan ar gyfer cynhyrchiad o’r enw ‘Blodeuwedd’ (1964). / Papers relating to a television programme titled ‘The Celts – Chronicle’, including a list of shots and camera rolls, and manuscript notes written in Humphreys’ hand. The file also includes papers relating to other TV productions where Emyr Humphreys was involved, including a shot list for a programme titled ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, with accompanying notes; cast lists, studio schedule, and running order for a production titled ‘Gwrthwynebwyr’/’Pearse a Connolly’ (1974); and stage plans for a production titled ‘Blodeuwedd’ (1964).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Papurau (1958; 1967; [?1975]; 1988) yn ymwneud â chynhyrchu’r ddrama deledu ‘Byw yn Rhydd’, yn cynnwys teipysgrif o’r sgript gyda brasluniau a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; ynghyd â nodiadau pellach yn dwyn y teitl ‘Pwyll a Rhiannon’, drafft o draethawd (di-deitl), llythyrau oddi wrth yr Arglwydd David Cecil (1) ac Imogen Taylor (1), a phrint du a gwyn. / Papers (1958; 1967; [?1975]; 1988) relating to the production of the television drama ‘Byw yn Rhydd’, including a typescript of the script with sketches and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; together with further notes titled ‘Pwyll and Rhiannon’, a draft of an essay (untitled), letters from Lord David Cecil (1) and Imogen Taylor (1), and a black and white print.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript deledu ar gyfer y ddrama ‘Byw yn Rhydd’ (1984), gyda rhai nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys. / A typescript of a television script for the drama ‘Byw yn Rhydd’ (1984), with some manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys.

'Hualau'

Teipysgrifau (1984) yn ymwneud â chynhyrchu'r ddrama deledu 'Hualau', a ddarlledwyd ar S4C, 9 Mawrth 1984. / Typescripts (1984) relating to the production of the television drama 'Hualau', transmitted on S4C, 9 March 1984.

'The Invention'; 'Etruscan Places'

Llyfr nodiadau A4 (1992) yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, gan gynnwys drafftiau rhannol o straeon byrion o’r enw ‘The Invention’ ac ‘Etruscan Places’. / An A4 notepad (1992) containing various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, including partial drafts of short stories titled ‘The Invention’ and ‘Etruscan Places’.

Results 161 to 180 of 839147