Showing 1587 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1969

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenlyn Parry, Dic Jones, Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, Rowland Mathias a Meic Stephens. Ceir cyfeiriadau at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1976

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys llawer o ohebiaeth ynglŷn â materion ariannol a'r newidiadau cyfansoddiadol oedd yn yr arfaeth. Ceir cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin ac at y cais i ennill Gwobr Nobel i Saunders Lewis yn ogystal â chyfeiriadau at dderbyn Geraint Gruffydd a Wil Sam yn aelodau o'r Academi.

Cyfres y clasuron: gohebiaeth, 1977-1980

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â chyhoeddi Cyfres y Clasuron, adroddiadau a llythyrau yn ymwneud â materion gweinyddol yn ogystal â gohebiaeth gweddol fanwl rhwng Geraint Gruffydd a Saunders Lewis ynglŷn â chyhoeddi Meistri a'u Crefft, Gwynn ap Gwilym, gol. (Caerdydd, 1981), 1977-1980.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Results 1561 to 1580 of 1587