Showing 256 results

Archival description
Only top-level descriptions fonds
Print preview View:

Cofnodion Noddfa, Capel y Bedyddwyr, Corris,

  • GB 0210 NODDFA
  • fonds
  • 1896-1970 /

Mae'r casgliad yn cynnwys cyfriflyfrau, 1896-1970; adroddiadau y capel, 1964-1969; gohebiaeth, 1932-1950, yn ymwneud â phrynu rhydd-ddaliad y capel oddi wrth stad Plas Machynlleth, ynghyd â chatalog gwerthiant perthynol; ac amrywiol bethau, 1897-1968 = The collection comprises account books, 1896-1970; chapel reports, 1964-1969; correspondence, 1932-1950, relating to the purchase of the freehold of the chapel from the Plas Machynlleth estate, together with a related sale catalogue; and miscellanea, 1897-1968.

Noddfa, Capel y Bedyddwyr (Corris, Wales).

Papurau'r Parch. D. R. Griffith,

  • GB 0210 DRGRIFF
  • fonds
  • 1929-1984 /

Mae'r papurau yn cynnwys llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithoedd ar y Testament Newydd yn bennaf; nodiadau pregethau; gohebiaeth, 1929-1980; nodiadau darlithoedd ac ymchwil; drafftiau teipysgrif o gyfieithiadau ar gyfer Beibl Cymraeg newydd; torion o'r wasg, 1947-1984; a rhaglenni gwasanaethau crefyddol a thaflenni angladdau. = Comprises notebooks containing lecture notes mainly on the New Testament; sermon notes; correspondence, 1929-1980; lecture and research notes; draft typescripts of translations for the new Welsh Bible; press cuttings, 1947-1984; and programmes for religious services and funeral service sheets.

Griffith, D. R. (David Robert)

Papurau Islwyn Williams,

  • GB 0210 ISLLIAMS
  • fonds
  • 1942-1963 /

Papurau Islwyn Williams, papurau llenyddol yn bennaf, yn cynnwys sgriptiau radio teipiedig,1942-1963, storiâu byrion, sgriptiau drama, storiâu digrif, a chyfrolau o ddyfyniadau a nodiadau personol. = Papers of Islwyn Williams, mainly literary papers, including typed radio scripts, 1942-1963, short stories, drama scripts, humorous stories, and volumes of quotations and personal notes.

Williams, Islwyn, 1903-1957.

Papurau A. Cadnant Ellis,

  • GB 0210 ACALLIS
  • fonds
  • [20fed ganrif] /

Papurau Arthur Cadnant Ellis [20fed ganrif], yn cynnwys traethodau ar 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' a 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; braslun o hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech a Llanfair, sir Feirionnydd; torion erthyglau, llythyrau, etc., a gyfrannodd i'r wasg; a nodiadau amrywiol = Papers of Arthur Cadnant Ellis, [20th century], including essays on 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' and 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; a brief history of the Calvinistic Methodist cause in Harlech and Llanfair, Merionethshire; cuttings of articles, letters, etc., which he contributed to the press; and miscellaneous notes.

Ellis, A. Cadnant (Arthur Cadnant), 1909-1984

Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

  • GB 0210 YSGOLPEN
  • fonds
  • 1964-1968 /

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

Papurau'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol,

  • GB 0210 WYDHOL
  • fonds
  • 1979-1986 /

Mae'n cynnwys cofnodion, cylchlythyrau a phapurau eraill yn ymwneud â gwaith y Gymdeithas,1979-1986 = Includes minutes, circulars and other papers relating to the work of the Society, 1979-1986.

Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Papurau'r Parch. T. Glyndwr Jones,

  • GB 0210 TGLNES
  • fonds
  • [1934x1985] /

Llyfryddiaeth baledi Cymraeg y 19eg ganrif, mewn wyth cyfrol teipysgrif (cyfrol chwech ar goll),ynghyd â drafftiau a nodiadau, [c. 1938], yn seiliedig ar gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd Bangor a Chaerdydd, gan T. Glyndwr Jones; a mynegai i'r cyfnodolyn Cymru, cyfrolau i-lix,[1934x1985] = Bibliography of 19th-century Welsh ballads, in eight typescript volumes (with volume six missing), along with drafts and notes, [c. 1938], based on collections at the National Library of Wales and Bangor and Cardiff libraries, by Rev. T. Glyndwr Jones; and an index to the periodical Cymru, vols i-lix, [1934x1985].

Jones, Thomas Glyndwr.

Papurau Dr Marshall Lloyd,

  • GB 0210 MAROYD
  • fonds
  • 1965 /

Nodiadau, rhaglenni, taflenni, a chyfnodolion Cymraeg a Saesneg, 1965, a grynhowyd gan Dr Marshall Lloyd, yn ymwneud â'i ymweliad â Phatagonia ar achlysur dathlu canmlwyddiant Y Wladfa Gymreig. = Notes, pictures, programmes, leaflets, and Welsh and Spanish periodicals, 1965, accumulated by Dr Marshall Lloyd, relating to his visit to Patagonia during the centenary celebrations of the founding of Y Wladfa, the Welsh colony.

Lloyd, J. H. Marshall.

Papurau Tom Williams, Temple Bar,

  • GB 0210 TOMAMS
  • fonds
  • [c. 1919x1986] /

Papurau Tom Williams, [c. 1919x1986], yn cynnwys nodiadau, copïau llawysgrif o erthyglau ac ysgrifau ar lenyddiaeth a chrefydd, a thorion o'r wasg o rai o'r erthyglau = Papers of Tom Williams, [c. 1919x1986], comprising notes, manuscript copies of articles and essays on literature and religion, and press cuttings of some of his articles.

Williams, Tom, 1899-1986

Papurau Gwilym Wyn,

  • GB 0210 GWIWYN
  • fonds
  • [?1870au]-[cyn 1914] /

Papurau Gwilym Wyn yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith, beirniadaethau eisteddfodol, traethodau a nodiadau ar gyfer sgyrsiau a phregethau, [1852]-[1914] = Papers of Gwilym Wyn comprising poetry and prose works, eisteddfodic adjudications, essays and notes for talks and sermons, [1852]-[1914].

Gwilym Wyn, 1852-1914

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Ceredigion,

  • GB 0210 CYMION
  • fonds
  • 1964-1969 /

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, yn cynnwys cofnodion sefydlu'r gangen,1964, a chofnodion, gohebiaeth a thorion o'r wasg,1964-1969 = Papers of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, including records establishing the branch, 1964, and minutes, correspondence and press cuttings, 1964-1969.

Papurau ychwanegol yn perthyn i Gymdeithas yr Iaith a Thafod y Ddraig, gan gynnwys gohebiaeth a thorion papur, 1969-1971. Nid yw'r casgliad hwn wedi ei gatalogio eto.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhanbarth Ceredigion.

Papurau'r Parch. J Arwyn Phillips,

  • GB 0210 JARIPS
  • fonds
  • [c. 1981]-1993 /

Papurau ymchwil yn ymwneud â'i draethawd MTh 'Bywyd a Gwaith William Williams o'r Wern 1781-1840' (Bangor, 1981) a'i draethawd MPhil 'Astudiaeth hanesyddol o Annibynwyr Siroedd Dinbych a Fflint 1863-1953 (Bangor, 1993),[1981]-1993 = Research papers relating to his MTh thesis 'Bywyd a Gwaith William Williams o'r Wern 1781-1840' (Bangor, 1981) and his MPhil thesis 'Astudiaeth Hanesyddol o Annibynwyr Siroedd Dinbych a Fflint 1863-1953' (Bangor, 1993), [1981]-1993.

Phillips, J. Arwyn, 1935-1993

Papurau Cassie Simon,

  • GB 0210 CASMON
  • fonds
  • 1932-1989 /

Papurau Cassie Simon yn ymwneud â Chôr Plant Cwmdwr neu â phlant a hyfforddwyd ganddi,yn cynnwys rhaglenni cyngherddau, 1932-1986; posteri, 1947-1958; torion papur newydd, 1933-1974; beirniadaethau eisteddfodau a thystysgrifau, 1947-1956; a gohebiaeth a phapurau cyffredinol, 1957-1989 = Papers of Cassie Simon relating to Côr Plant Cwmdwr or to children instructed by her, including concert programmes, 1932-1986; posters, 1947-1958; newspaper cuttings, 1933-1974; eisteddfod adjudications and certificates, 1947-1956; and general correspondence and papers, 1957-1989.

Simon, Cassie, 1898-1989

Papurau Cymdeithas Gelfyddyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

  • GB 0210 CGLLGC
  • fonds
  • 1965-1985 /

Cofnodion, 1965-1984; gohebiaeth,1974-1985; a phapurau amrywiol, [1977]-1985, yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag Eisteddfod y Llyfrgell,1985 = Minutes, 1965-1984; correspondence, 1974-1985; and miscellaneous papers, [1977]-1985, including material concerning the Library Eisteddfod, 1985.

National Library of Wales. Arts Society.

CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Llanddeiniol,

  • GB 0210 ELIM
  • fonds
  • 1859-1986 /

Mae'r fonds yn cynnwys llyfr casgliadau misol at y weinidogaeth Capel Elim, Llanddeiniol, Ceredigion, 1859-1869, a llyfrau'r eisteddleoedd, 1901-1986.

Capel Elim (Llanddeiniol, Ceredigion, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Corris Uchaf

  • GB 0210 BETHCU
  • fonds
  • 1897-1919

Mae'r fonds yn cynnwys Cofrestr Aelodau Cymdeithas Dirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1897-1919, a Llyfr Casgliad yr Ugeinfed Ganrif, 1901-1903.

Capel Bethania (Corris, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Gwynfa, Y Ffrith

  • GB 0210 GWYNFA
  • fonds
  • 1926-1991

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1926-1949, a Llyfr Cyfrifon, 1956-1991.

Capel Gwynfa, Ffrith (Hope, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

  • GB 0210 BWLTRE
  • fonds
  • 1871-1912

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.

Capel Bwlchgwynt (Tregaron, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown

  • GB 0210 SEILOJ
  • fonds
  • [?1935]-1999

Mae'r fonds yn cynnwys ffolder o gofysgrifau cyffredinol yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'i gweithgareddau cymdeithasol.

Capel Seilo (Johnstown, Wales)

Results 61 to 80 of 256