Showing 54 results

Archival description
Miscellaneous letters and papers
Print preview View:

Llythyr milwr or Rhyfel Byd Cyntaf,

Llythyr, 8 Mai 1916, oddi wrth y Preifat I[orwerth] Hughes o Frynymaen, sir Ddinbych, oedd yn gwasanaethu gyda 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc, at un Mrs Owen, yn rhoi newyddion personol. = Letter, 8 May 1916, from Pte I[orwerth] Hughes of Brynymaen, Denbighshire, serving with the 17th Battalion, Royal Welsh Fusiliers in France, to one Mrs Owen, giving personal news.

Hughes, Iorwerth, Royal Welsh Fusiliers.

Cerdyn post oddi wrth Griffith T. Roberts,

Cerdyn post, [23] Chwefror 1949, oddi wrth G[riffith] T[homas] R[oberts], Bangor, at Garfield H. Hughes, Aberystwyth, ynghlyn a'i arferion darllen diweddar. = Postcard, [23] February 1949, from G[riffith] T[homas] R[oberts], Bangor, to Garfield H. Hughes, Aberystwyth, relating to Roberts's recent reading habits.

Roberts, Griffith T. (Griffith Thomas), 1912-1991.

Llythyr Tom Jones, Shotton,

Llythyr, 24 Mai 1988, oddi wrth Tom Jones, Penarlâg (h.y. Tom Jones, Shotton; Twm Sbaen), at Gwyn Jenkins, yn cyfeirio at ffotograff amgaeëdig ac yn enwi'r rhai sydd ynddo. = Letter, 24 May 1988, from Tom Jones, Hawarden (i.e. Tom Jones, Shotton; Twm Sbaen), to Gwyn Jenkins, referring to an enclosed photograph and identifying those pictured.
Ymddengys mai darlun [18] yn llyfr Gwyn Jenkins, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Talybont, 2007), yw'r llun; roedd y derbynnydd yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y llyfr ar y pryd, a chafodd gyfweliad gyda Tom Jones ar 13 Mai 1988. = The photograph appears to be plate [18] in Gwyn Jenkins, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards (Talybont, 2007); the recipient was researching the book at the time and interviewed Tom Jones on 13 May 1988.

Jones, Tom, 1908-1990.

Llythyr Elfed,

Llythyr teipiedig, 22 Mawrth [1940x1953], oddi wrth Elfed, Penarth, at 'Katie' (f. 91) yn amgau emyn ganddo o'r enw 'Crist yn y cartref newydd' ar gyfer ei phriodas (f. 92). = Typescript letter, 22 March [1940x953], from Elfed, Penarth, to 'Katie' (f. 91), enclosing a hymn by him entitled 'Crist yn y cartref newydd' for her wedding (f. 92).

Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)

Llythyr Jennie Eirian Davies,

Llythyr, [?1976], oddi wrth Jennie Eirian Davies, Yr Wyddgrug, at Mr [?Ifor] Jones yn ymddiheuro am na fyddai'n gallu beirniadu yn Eisteddfod Llanrwst y flwyddyn honno. = Letter, [?1976], from Jennie Eirian Davies, Mold, to Mr [?Ifor] Jones apologising for being unable to adjudicate at that year's Llanrwst Eisteddfod.

Davies, Jennie Eirian, 1925-1982.

Cerdyn er cof am Thomas H. Parry-Williams,

Cerdyn argraffedig, Mawrth 1975, yn cydnabod cydymdeimlad ar farw T. H. Parry-Williams. Anfonwyd y cerdyn oddi wrth ei weddw, Amy, at eu ffrindiau 'Margaret ac Owen'. = A printed acknowledgement card, March 1975, on the death of T. H. Parry-Williams, sent by his widow, Amy, to their friends 'Margaret and Owen'.
Mae'r cerdyn yn cynnwys testun Cymraeg printiedig, gyda neges ychwanegol yn Saesneg yn llaw Amy Parry-Williams. = The card contains a printed message in Welsh, with an additional note in English in the hand of Amy Parry-Williams.

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988.

Emyn dôn Dewi Myrnach,

Copi, [?1887], o osodiad cerddorol gan, ac yn llaw, David Davies (Dewi Myrnach) o emyn Maurice Davies 'Am graig i adeiladu'. Mae'r copi wedi ei gyflwyno i Thomas Morris. = A copy, [?1887], of a musical setting by, and in the hand of, David Davies (Dewi Myrnach) of Maurice Davies's hymn beginning 'Am graig i adeiladu'. The copy is dedicated to Thomas Morris.
Ennillodd y dôn wobr yn Eisteddfod yr Iwbili a gynhaliwyd yn Nhyddewi ar 17 Awst 1887, gyda Dr Joseph Parry yn beirniadu. = The hymn tune was awarded a prize at the 'Jubilee Eisteddfod' held at St Davids on 17 August 1887, with Dr Joseph Parry adjudicating.

Davies, David, 1845-1923.

Englyn gan Wil Ifan,

Nodyn, [c. 1965?], oddi wrth Wil Ifan, Pen-y-bont ar Ogwr, at [Rhiannon Francis Roberts] yn cynnwys englyn ganddo (ond sydd yn cael ei briodoli yma i Roberts) yn cyfeirio, mae'n debyg, at annibendod ei bapurau ei hun. = Note, [c. 1965?], from Wil Ifan, Bridgend, to [Rhiannon Francis Roberts] containing an englyn by him (but here ascribed to Roberts), apparently referring to the disarray amongst his own papers.
Roedd Roberts yn archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol a bu'n gyfrifol am gatalogio lythyrau Wil Ifan ym 1965. = Roberts was an archivist at the National Library and was responsible for cataloguing Wil Ifan's letters in 1965.

Wil Ifan, 1883-1968.

Berta Ruck letters,

Four letters, January 1957, March-April 1961, from Berta Ruck, Aberdovey, to the novelist Richard Blake Brown, mainly concerning family matters and Brown's work.
Ruck gives an account of the declining health of her husband Oliver Onions (ff. 105-106), and his subsequent death (f. 107). She also discusses the work of the novelist Marie Corelli (f. 104) and encloses a poem of her own composition entitled 'The Flying Shadow' (f. 103).

Ruck, Berta, 1878-1978

Augustus John letter,

A typescript copy, [20 cent., third ¼], of a letter, [Summer 1930], from Augustus John, Renvyle, County Galway, to Will [?Rothenstein], in which John explains his presence in Ireland to paint W. B. Yeats' portrait.
The typescript has the date supplied in the hand of [?Michael Holroyd] and resembles typescripts of other letters to Rothenstein to be found in NLW, Michael Holroyd (Augustus John) Research Papers 4/6.

John, Augustus, 1878-1961

Robert Graves letter to Gwyn Jones,

Letter, 4 January 1946, from Robert Graves, Galmpton, nr Brixham, Devon, to Gwyn Jones, in which the sender discusses the literary future of Wales and argues for the Mabinogion as a possible influence on Shakespeare's Tempest.

Graves, Robert, 1895-1985

Mary C. Carver letter,

A letter, [1881x1912], from Mary C[reswell] Carver, West Derby, Liverpool, to her Uncle, Benjamin Carver, containing personal news and referring to the diary of her father, John Carver.

Carver, Mary C. (Mary Creswell), 1846-1915.

R. S. Thomas letter

Letter, 13 January 1977, from R. S. Thomas, Aberdaron, to a Mr Morgan [of ?Leicester], apparently replying to questions about the influences on his poetry and the social and linguistic make-up of his previous and current parishes.

Thomas, R. S. (Ronald Stuart), 1913-2000

Llythyr W. Glasnant Jones,

Llythyr, 25 Chwefror 1904, oddi wrth y Parch. W. Glanant Jones, Nantyffyllon, i weinidog Annibynol anhysbys, yn gofyn iddo gymryd rhan mewn gwasanaeth yng Nghapel Siloh, Nantyffyllon, i ddathlu canmlwyddiant y Gymdeithas Feiblaidd. = Letter, 25 February 1904, from W. Glasnant Jones, Nantyffyllon, to an unnamed Congregational minister, asking him to participate in a service at Siloh chapel, Nantyffyllon, to celebrate the centenary of the British and Foreign Bible Society.

Glasnant, 1869-1951

Llythyr D. J. Williams, Rhydcymerau

Llythyr, 28 Rhagfyr 1917, oddi wrth D. J. Williams, Rhydcymerau, at gyd-heddychwr, Tom Llewelyn Thomas, Birchgrove, Abertawe, yn cyfeirio at heddychaeth gyfoes ac at lyfryn Love of Country (1917) o waith y derbynydd. = Letter, 28 December 1917, from D. J. Williams, Rhydcymerau, to fellow pacifist Tom Llewelyn Thomas, Birchgrove, Swansea, concerning contemporary pacifism and the recipient's pamphlet, Love of Country (1917).

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Llythyr D. J. Williams, Abergwaun

Llythyr, 5 Ebrill 1955, oddi wrth D. J. Williams, Abergwaun, at Huw Davies, [Llandaf], yn mynegi ei farn ynghlŷn â Mudiad Gweriniaethol Cymru, a sefydlwyd gan Davies ymysg eraill. = Letter, 5 April 1955, from D. J. Williams, Fishguard, to Huw Davies, [Llandaf], giving his views on the Welsh Republican Movement, of which Davies was a founder member.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Cyfieithiad o waith Hölderlin

Drafftiau, [1950au], gan Dr J. Gwyn Griffiths o gyfieithiadau i'r Gymraeg o gerddi Almaeneg gan Hölderlin. Ysgrifennwyd y drafftiau ar lythyr (ac amlen), 13 Awst 1951, a gyfeiriwyd yn wreiddiol oddi wrth Nan Davies o'r BBC, Bangor, at Dr Griffiths (f. 86, 86a), ac ar gefn dalen o ymarferion Groegaidd (f. 87). = Drafts, [1950s], by Dr J. Gwyn Griffiths of translations into Welsh of German poems by Hölderlin. These were written on a letter (and envelope), 13 August 1951, originally sent by Nan Davies of the BBC, Bangor, to Dr Griffiths (f. 86, 86a), and on the back of a page of Greek exercises (f. 87).
Y cerddi a gyfieithiwyd yw 'Die Heimath' (f. 86), pennill cyntaf 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), a'r wyth llinell cyntaf o 'Brot und Wein', rhan IV (ff. 86a verso, 87); mae'r gwreiddiol yn The Poems of Hölderlin, cyf. gan Michael Hamburger ([Llundain], [1943]), tt. 110, 108, 118 a 164 yn eu tro. Cyhoeddwyd 'Adref' ('Die Heimath') a 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') yn J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), tt. 88-89. = The poems translated are 'Die Heimath' (f. 86), the first verse of 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), and the first eight lines of 'Brot und Wein', part IV (ff. 86a verso, 87); for the originals see The Poems of Hölderlin, trans. by Michael Hamburger ([London], [1943]), pp. 110, 108, 118 and 164 respectively. 'Adref' ('Die Heimath') and 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') were published in J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), pp. 88-89.

Griffiths, John Gwyn.

Helen Thomas: Essay on her love of nature

Autograph draft by Helen Thomas, [early 1920s], of a possibly unpublished lyrical work about her love of nature in general and of hills and mountains in particular.
References to Kent and the River Darent (ff. 44-45) show that the work was written while Thomas lived at Otford in Kent in the years after her husband's death. There are also references to the Sussex Downs (f. 45 recto-verso) and to her 1919 visit to Scotland (ff. 46-49 verso) and to Glen [?Ample, Perthshire] (f. 49) (see Helen Thomas, Time & Again, ed. by Myfanwy Thomas (Manchester, 1978), pp. 126-127).

Thomas, Helen, 1877-1967

Miscellaneous letters and papers

  • NLW MS 23925E.
  • File
  • 1804-2005

A collection of miscellaneous letters and papers, 1804-2005, purchased or received by donation from various sources by the National Library of Wales during the period May 2004-May 2008 and boxed as one volume.

Results 21 to 40 of 54