Showing 270 results
Archival description- 275-6.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Dwy gerdd i gyfarch Amanwy ar ennill cadeiriau eisteddfodol o waith 'Gwilym Myrddin' (William Jones, 1863-1946, Betws, Rhydaman). Ceir nodyn pensel yn dweud bod penillion y naill gerdd (275) wedi eu canu gan Mr Sam Jenkins.
- 274.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Torion papur newydd o erthygl "A Ddylid Ceisio Rhwygo'r Llen?" lle ceir sylwedd dadl a gynhaliwyd yng Nghymdeithas Ddiwylliadol y Christian Temple, Rhydaman, rhwng Amanwy a Miss [Hannah] Rogers, gydag Amanwy yn dadlau o blaid ysbrydegiaeth.
- 273.
- File
- 1923-1954.
Part of Papurau Amanwy,
Ffeil o bapurau newydd, 1923-54, sef casgliad o erthyglau Amanwy yn cynnwys y gyfres "Colofn Cymry'r Dyffryn" o'r Amman Valley Chronicle yn dwyn y ffugenw 'Cerddetwr', cyfres "O Gwm i Gwm" o'r Cymro, ynghyd â beirniadaethau o'r Brython a Baner ac Amserau Cymru a chofnod ei farw yn Y Cymro.
- 272.
- File
- [1919]-1954.
Part of Papurau Amanwy,
Cyfrol o dorion papur newydd, [1919]-54, yn dilyn hanes bywyd a gyrfa Amanwy. O fewn y clawr blaen ceir dwy delyneg yn llaw Amanwy, sef "Y Wynfa Dlos" a "Gwraig y Milwr" a drafft o gerdd arall o fewn y clawr ôl.
- 271.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r Detholiad o Donau ac Emynau... yr Annibynwyr (Abertawe, d.d.) yn cynnwys y ddau emyn o waith Amanwy yn rhifau 269 a 270 uchod.
- 270.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Mae popeth drwy y cread maith/Yn canmol Iesu yn ei iaith..." ar y dôn 'Gellimanwydd' o waith Gwilym R. Jones, o'r Detholiad o Donau ac Emynau ... yr Annibynwyr, rhif 77. Ychwanegodd Amanwy y cytgan mewn llawysgrifen; gweler hefyd rif 271 isod.
- 269.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Hyfryd ydyw gwrando/Ambell dawel awr..." ar y dôn 'Eirwen' o waith Vyrnwy M. Jones, o'r Detholiad o Donau ac Emynau...yr Annibynwyr, rhif 60. Gweler hefyd rif 271 isod.
- 268.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Clywch y canu peraidd ar awelon nef..." ar y dôn 'Dyfrig' o waith Harry Richards, Garnswllt.
Taflen angladdol Amanwy, 31 Rhagfyr 1953, yn dilyn ei farwolaeth yn 71 mlwydd oed ar 27 Rhagfyr,
- 267.
- File
- 1953.
Part of Papurau Amanwy,
Taflen angladdol Amanwy, 31 Rhagfyr 1953, yn dilyn ei farwolaeth yn 71 mlwydd oed ar 27 Rhagfyr 1953.
- 266.
- File
- 1949.
Part of Papurau Amanwy,
Rhaglen brintiedig: Amman Valley Grammar School Old Pupils' Association, Order of Service at the Unveiling Ceremony at the Grammar School, Ammanford on Thursday, May 5th, 1949, at 7 p.m. of the School War Memorial To the Pupils of the Amman Valley Grammar School who gave their lives in the Second World War, 1939-45. Ar gefn y daflen ceir cerdd bwrpasol ar gyfer yr achlysur o waith Amanwy yn dwyn y teitl "'Byddant Fyw heb Iddynt Fedd.' Er cof am lanciau Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman a syrthiodd yn Rhyfel 1939-45.".
- 265.
- File
- 1942.
Part of Papurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "O! gwrando, Iôr y lluoedd..." ar y dôn 'Er Cof' o waith Isaac Lloyd, a luniwyd ar gyfer trigeinfed Cymanfa Ganu'r Christian Temple, Rhydaman, 1942.
- 264.
- File
- 1942.
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r gyfrol Blodeuglwm Serch gan Bump o'i Gyfeillion er cof am David Mainwaring, Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin. Bu farw Ebrill 2, 1941 (Llandysul, 1942), sy'n cynnwys cerdd "Er Cof" o waith Amanwy, t. 11.
- 263.
- File
- 1932.
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r gyfrol Tom Parry ac Amanwy, Cerddi'r Lleiafrif sef yr awdl orau yn ol Dr T. H. Parry-Williams, a'r bryddest orau yn ol Cynan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932 (Aberystwyth, 1932), 30 tt., sy'n cynnwys pryddest ailorau Amanwy, "A Ddioddefws a Orfu", yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan y flwyddyn 1932; gweler hefyd rif 82 uchod.
- 262.
- File
- 1924.
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r gyfrol O Lwch y Lofa - Cyfrol o Ganu Chwech o Lowyr Sir Gâr (Ammanford, 1924), sy'n cynnwys eitemau o waith Amanwy.
- 261.
- File
- 1919.
Part of Papurau Amanwy,
Cais printiedig gan Amanwy, dyddiedig 28 Gorffennaf 1919: Application and testimonials of Mr D. R. Griffiths for the post of Cataloguer for the National Library of Wales. Ar gefn y cais cerdd drafft mewn pensel o gerdd gan Amanwy sy'n dwyn y teitl "Cân annerch Wm Thomas ME ai Briod".
- 259.
- File
- 1953.
Part of Papurau Amanwy,
"Pryddestau Radio - 'Yr Hen Gwm' gan Amanwy", y cyfarwyddo gan Aneirin Talfan, darlledwyd ar Raglen Cymru'r BBC o Abertawe, 27 Ebrill 1953, 7.15-7.45 pm, 17 tt.; gweler hefyd rif 88 uchod.
- 258.
- File
- 1950.
Part of Papurau Amanwy,
"Cornel y Llenor - Ymweliad â Rhydaman" (Tywysydd - Amanwy), darllediad ar Raglen Cymru, 22 Chwefror 1950, rhwng 10.00 a 10.30 pm, 9 tt.