Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1997; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1996-1997 (1997), ac adroddiad ariannol (1997); a ffigyrau ariannol Prifysgol Cymru 1997-1998 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1997-1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Lynn Williams; Ian George; Derec Llwyd Morgan; R. Brinley Jones; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Lionel Madden; Patrick Sims-Williams; ac Aeres Davies.

Jones, R. Brinley

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2003; Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 2003; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2002-2003 (2003); adroddiad ariannol, 2002-2003 (2003); copi o gofnodion cyfarfod ar gyfansoddiad y Pwyllgor Rheoli (2003); copi o Gylchlythyr y Ganolfan, rhif 6 (Haf 2003); papurau pleidleisio ar gyfer traddodi Darlith Goffa J. E. Caerwyn Williams a Gwen Williams 2004 (2003); a chopi o Ordinant Gweinyddol 11 Prifysgol Cymru ([2003]). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2003), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ian George; Richard Houdmont; Ruth ab Ieuan; Penny Dransart; Geraint H. Jenkins; Beryl Wyn Jenkins; Sioned Davies; Ann Hughes; ac R. Brinley Jones.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2002; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2001-2002 (2002), ac adroddiad ariannol, 2001-2002 (2002); ac agenda a chofnodion cyfarfod, Hydref 2002. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; R. Brinley Jones; Nia Davies; Mary-Ann Constantine; Nicola Williams; Rhys Huws; Penny Dransart; a Peter Lloyd.

Seminarau'r Ganolfan

Rhaglenni seminar a slipiau ateb, 1990, a llythyrau cysylltiedig (1990) yn trafod y seminarau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Anne Matonis; John Gillingham; Ffion Jenkins (nawr Hague); David Moore; Geraint Wyn Jones; Brynley F. Roberts; David Kirby; R. R. Davies; Edgar Slotkin; Sioned Davies; Joe Eska; Gwerfyl Pierce Jones; Donald Moore; Herbert Pilch; a D. Simon Evans.

'Y Bardd Celtaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1991, yn ymwneud â thrydydd Fforwm ar deg y Ganolfan ‘Y Bardd Celtaidd’ fel un o weithgareddau gŵyl ‘Celtica 1991’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; copi o’r llyfryn ‘Celtica 1991’; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Saunders Davies; Elin M. Jones; D. M. Lewis; Susan Jenkins; Hywel ap Robert; T. Arwyn Watkins; A. O. H. Jarman; Morfydd E. Owen; a Nerys Ann Jones.

Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl

Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N.J.A. Williams; J.E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F.W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T.J. Morgan, A.O.H. Jarman, J.E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.

Gruffydd, R. Geraint

Yr Arddangosfa yn yr Eisteddfod

Papurau a gohebiaeth, 1987, yn ymwneud â threfnu arddangosfa’r Ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys drafftiau ar gyfer y paneli gwybodaeth, gyda manylion am waith y Ganolfan a sefydliadau astudiaethau Celtaidd eraill; a llythyrau cysylltiedig (1987); oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Angela West; Rhian Andrews; Gareth Wyn Evans; J.P. Duggan; Oliver Padel; a Ceri Lewis. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys ffurflen rhodd ar gyfer Apêl Syr Thomas Parry-Williams [?1979].

Gruffydd, R. Geraint

'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp'

Copi o deipysgrif drafft o gyfraniad R. Geraint Gruffydd ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ i’r gyfrol 'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp', a nodiadau, [1988]; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod y 'festschrift', 1984-1985 a 1987-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Daniel F. Melia; R. Geraint Gruffydd; Jean Le Dú; Karl Horst Schmidt; Ann Matonis; V.J. Adlard; Graham Amy; David Badcock; Jean Belcher; L. Crowther; Jeremy Dodd; Richard Harland; D.A.D. Reeve; ac N.J. Ruffle.

Gruffydd, R. Geraint

Results 1 to 20 of 188