Beirniadaeth W. J. Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi, 1942. Ceir nodyn yng nghyfrol Cyfansoddiadau ... yr eisteddfod honno fel a ganlyn: 'Oherwydd gwaeledd ni allodd yr Athro W. J. Gruffydd baratoi ei feirniadaeth ar gyfer y gyfrol hon. Ond deallwn ei fod yn anghytuno â'i gydfeirniaid, a dywaid mewn llythyr ei fod yn ddi-sigl o'r farn (a) nad Aneirin yw'r gorau, (b) nad oes neb yn haeddu'r goron.' Barn yr Athro Gruffydd felly ydyw na ddylid coroni. Yn ôl rheol 14 yn y 'Rheolau ac Amodau' yn y Rhestr Testunau, 'barn y mwyafrif o'r beirniaid ar unrhyw gystadleuaeth a saif, a gwobrwyir yn unol â hynny.' [Y buddugol oedd Herman Jones, Deiniolen].