Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Nodiadau a drafftiau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys nodiadau amrywiol a drafftiau o erthyglau a darlithoedd yn ymwneud ag iaith, llenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth dramor, llenorion, cyhoeddi, yn enwedig y Beibl, esboniadau beiblaidd, yn ogystal â ffeil ar ddehongli breuddwydion.

Llyfrau Casgliad y Weinidogaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys yn bennaf llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1944-1996, ynghyd â chyfrolau a bwndeli o bapurau rhydd yn cynnwys cyfrifon ar gyfer casgliadau y weinidogaeth yn ôl pob tebyg, a gopïwyd yn ddiweddarach i'r cofrestri ffurfiol, 1977-1996.

Llythyrau

Llythyrau at Norah Isaac oddi wrth Saunders Lewis, 1953-[1979], llythyrau oddi wrth hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a llythyrau pan y'i gwnaed yn Gymrawd o'r sefydliad hwnnw yn 1988.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1924-1996, gan gynnwys rhai a anfonwyd at Erfyl Fychan a'i fab Geraint Vaughan-Jones, yn ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol, ynghyd â phersonalia.

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Cyfieithiadau cerddorol

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg yn bennaf, 1987-2001, o ganeuon gan John Stoddart ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Cyfrolau amrywiol

Pedair cyfrol o ddeunydd amrywiol, ond gan fwyaf o doriadau papur newydd. Mae tair cyfrol yn cynnwys toriadau o gerddi ar ben nodiadau eraill - dau yn cynnwys yr enw Evan Davies, Pentrebach, ac un yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, heb eu dyddio. Mae'r bedwaredd gyfrol yn cynnwys cyfrifon Miss E. E. Lewis a Margaret Lewis, Mr David H. Lewis, ac ystâd Plasmarl, 1891-1903, a thoriadau allan o'r Darian, 1916, a thoriadau yn ymwneud â choginio, heb eu dyddio.

Gohebiaeth etholaethol

Gohebiaeth etholaethol, 1990-2000, gan gynnwys llythyrau oddi wrth etholwyr Ieuan Wyn Jones, copïau o'i atebion, ynghyd â nodiadau ar gyfweliadau rhyngddo â'r unigolion dan sylw.

Gweithiau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau llenyddol Carys Bell, 1957-2001, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, sef teipysgrifau a llyfrau nodiadau; cyfraniadau i weithiau eraill; erthyglau Cymraeg a Saesneg ar gyfer y wasg, a sgriptiau radio; ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Llyfrau cofnodion,

Llyfrau cofnodion Pwyllgor Gweinyddol Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1837-1916, yn cofnodi penderfyniadau'r Pwyllgor ar faterion gweinyddol ac ariannol, gan gynnwys codi dirwyon a chanlyniadau etholiadau blynyddol y Gymdeithas i benodi aelodau'r Pwyllgor. Yn ogystal, ceir rhestrau o enwau aelodau o fewn rhai cyfrolau.

Canlyniadau 1 i 20 o 567