Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol,

Gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977, rhwng Zonia M. Bowen, fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, a chorfforaethau, mudiadau ac unigolion amrywiol yn ymwneud â Merched y Wawr a'i sefydliad. Ceir rhestrau o gynnwys rhai o'r ffeiliau, a baratowyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau perthnasol.

Llythyrau,

Llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn llongyfarch D. Tecwyn Lloyd ar ei lwyddiant academaidd ac ar dderbyn swyddi newydd, gwahoddiadau i ddarlithio oddi wrth gymdeithasau a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadadu ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth y Gymdeithas gydag aelodau, masnachwyr a chyrff a mudiadau eraill, ynglŷn â phob agwedd o weithgareddau'r Gymdeithas.

Llyfrau casgliad y weinidogaeth,

Llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1927-1966, yn cynnwys enwau, cyfeiriad, a’r swm a roddwyd gan yr aelodau; a llyfr y trysorydd, 1941-1975, yn cynnwys derbyniadau (casgliadau'r weinidogaeth) gan yr aelodau a’r gynulleidfa, a thaliadau i’r gweinidogion a’u henwau.

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau Meic Povey, 1988-2005, yn ymwneud â'i waith fel dramodydd, gan gynnwys syniadau ar brosiectau cyfredol, a nodiadau bras ar faterion megis lleoliadau set, ynghyd â rhai drafftiau cynnar o'i weithiau.

Canlyniadau 61 i 80 o 567