Copi llawysgrif a llungopi o'r gerdd Cân Bom gan Waldo Williams, y copi llawysgrif yn ei law. Ar du ôl y copi llawysgrif, ceir copi o'r gerdd Almaenes gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd Cân Bom am y tro cyntaf yn rhifyn 3 Ebrill 1946 o'r Faner.
Copi llawysgrif o gerdd gan ac yn llaw Waldo Williams yn cychwyn 'High above the Great West Road ...' a anfonodd Waldo fel rhodd Nadolig, 20 Rhagfyr 1948, at nai Maude Webb, prifathrawes Ysgol Gynradd Lyneham ger Chippenham, swydd Wiltshire, lle 'roedd Waldo'n dysgu ar y pryd; ynghyd â llungopi o'r gerdd. Darlunir y gerdd â phaentiad dyfrlliw gwreiddiol o Geffyl Gwyn Cherhill a Chofeb Lansdowne.
Cerdd, yn ôl pob golwg gan Waldo Williams, mewn teipysgrif yn dwyn y teitl Tua'r Gogledd. Yn ôl nodyn ynghlwm wrth y gerdd, fe'i chyhoeddwyd yn rhifyn Awst 1950 o'r cyfnodolyn Taliesin.
Copïau teipysgrif o dair cerdd gan Waldo Williams dan y teitl Oes y Seintiau, sef 'Cân I' a 'Chân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman', ynghyd â sgôr gerddorol mewn llawysgrif ar gyfer deulais a phiano yn dwyn y teitl 'Molawd Penfro', y geiriau gan Waldo a'r gosodiad cerddorol gan Gerallt Evans. Lluniodd Waldo 'Cân I', 'Cân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman' ar gyfer 'Molawd Penfro', sef pasiant adrannau ac aelwydydd yr Urdd Sir Benfro a oedd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abergwaun 1951.
Copi llawysgrif teg o gywydd mawl i D. J. Williams gan ac yn llaw Waldo Williams. Lluniwyd y cywydd ar gyfer achlysur i anrhydeddu D. J. Williams yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru yn Abergwaun ym 1964.
Cerdd lawysgrif gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Cân Olaf Arthur', sef Cerdd Olaf Arthur ag Ef yn Alltud yn Awstralia, rhan o'r bryddest Y Gân Ni Chanwyd, a gyfansoddwyd gan Waldo Williams tua diwedd y 1920au ond nas cwblhawyd.
Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.
Llungopi, a gymerwyd o ffynhonell brintiedig, o'r gerdd Cwm Berllan gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn Hydref 1931 o'r Ford Gron.
Llungopi o'r gerdd Plentyn y Ddaear gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 17 Mai 1939 o'r Faner.
Llungopi o nodyn (neu, o bosib, ran o lythyr) oddi wrth 'Hefin' at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys copi o englyn gan Waldo Williams sy'n cychwyn 'O baradwys ddibryder ...'. Crybwyllir yn y nodyn y gwas ffarm a'r gwrthwynebwr cydwybodol Percy Ogwen Jones, ynghyd a'i fab, Geraint Percy Jones.
Amrywiol gerddi drafft/lled deg, pob un namyn un yn llungopïau, o bosib yn llaw Waldo Williams. Ymddengys un, yn dwyn y teitl 'Significant Departures', fel petai wedi'i ysgrifennu tra yn yr ysbyty.
Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.
Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).
Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.
Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.