Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Sgriptiau,

Sgriptiau gan gynnwys 'Safonau beirniadaeth', 1949, 'Gwlad y galon' [Yr Eidal], 1955, 'Y ddinas dragwyddol' [Rhufain], 1956, a 'Cynan a chanu rhyfel', rhan o raglen ar gyfer y BBC, 1970.

Cyfieithiadau,

'Am yr amser sydd ohoni’, cyfieithiad o’r gerdd ‘For the time being’ gan W. H. Auden, 1959/1960, a 'Y Cythreuliaid' (ei drosiad o ddrama John Whiting, The Devils) i Gwmni Drama Abertawe, 1965, heb ei chyhoeddi.

Erthyglau,

Cyfraniadau i Barn, Y Cymro ac eraill, mewn llawysgrif yn bennaf, gan gynnwys adolygiadau, ynghyd â golygyddol Taliesin, a darlith 'Agweddau ar Ramantiaeth', Coleg St Antwn, Rhydychen, 1962.

Darnau anorffenedig,

Ymlith y papurau mae ‘Rhan o hunangofiant’, 1979, a ‘Rhagair i hunangofiant’, 1981, ynghyd â chyfeiriadau at ddefnydd Daniel Owen o "true to nature" yn ei weithiau.

Ysgrifau coffa,

Torion o ysgrifau coffa, 1963-1992, a gyhoeddwyd ym mhapurau newydd Y Cyfnod a'r Corwen Times gan mwyaf, gan gynnwys teyrnged i Maurice James, 1968, ac i Ann Lloyd, ei lysfam, 1986.

Dyddiaduron y Parch. John Jones,

Papurau’n ymwneud â’i erthygl 'Dyddiaduron y Parch. John Jones, M.A. (1773-1853)' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, 1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Idris [Foster], Mari [Ellis], T. I. Ellis (4). Ceir dyfyniadau hefyd o'r dyddiaduron, a gwahanlithoedd o'r erthygl, 1970, a thestun y dyddiaduron, 1971.

Foster, Idris, 1911-1984

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Results 201 to 207 of 207