Showing 93 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Ffeil / File
Print preview View:

Cofnodion cyffredinol y ddwy adran gyda'i gilydd / Minutes of the joint AGMs of both sections, 1979-1982

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion a pheth deunydd perthynol yn ymwneud â chyfarfodydd cyffredinol blynyddol dwy adran yr Academi, 1979-1982. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys cofnodion un cyfarfod tebyg a gynhaliwyd ym 1977 i drafod ymweliad awduron o'r Ffindir. -- The file contains the minutes and some other material relating to the Academi's joint Annual General Meetings, 1979-1982. It also contains minutes of a similar meeting arranged in 1977 to discuss the visit of writers to Finland.

Ymweliad ag Iwgoslafia / A visit to Yugoslavia

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud ag ymweliad awduron Cymreig ag Iwgoslafia ym mis Medi 1976, taith a drefnwyd yn dilyn ymweliad llwyddiannus awduron o'r wlad honno â Chymru ym 1974. -- The file consists of correspondence relating to the visits of Welsh authors to Yugoslavia in September 1976, a visit which was arranged following a successful visit to Wales by authors of that country in 1974.

Cynadleddau rhyngwladol i awduron, Belgrad / International meeting of writers, Belgrade

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth ac adroddiadau yn ymwneud ag ymweliadau awduron o Gymru ag ail gynhadledd ar bymtheg a deunawfed cynhadledd ryngwladol i awduron a gynhaliwyd yn flynyddol yn Belgrad, prifddinas Serbia. Gyrrwyd y bardd John Tripp yn 1980 a'r nofelwyr Eigra Lewis Roberts ac Alun Jones ym 1981. -- The file consists of correspondence and reports relating to the visit by Welsh writers to the seventeenth and eighteenth international conference for authors which was held annually in Belgrade, the capital of Serbia. The poet John Tripp was sent in 1980 and the novelists Eigra Lewis Roberts and Alun Jones in 1981.

Roberts, Eigra Lewis

Cynhadledd ryngwladol / International conference 1974

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau yn ymwneud â chynhadledd ryngwladol fawr y bwriadwyd ei threfnu ym 1974 fel dilyniant i Gyngres Taliesin, 1969. Ni lwyddwyd i wireddu'r cynlluniau gwreiddiol a threfnwyd cynhadledd gydag awduron Iwgoslafia yn lle hynny, 1972-1974. -- The file consists of correspondence, minutes and reports regarding an international conference which was to be arranged in 1974 to follow on from the Taliesin Congress of 1969. The orignal plans were not realised and a conference with Yugoslavian authors was arranged instead, 1972-1974.

Ymweliad Andrei Voznesensky Visit

Mae'r ffeil yn cynnwys ychydig o ohebiaeth a manylion am ymweliad y bardd Rwsiaidd Andrei Voznesensky o'r Undeb Sofietaidd â Chymru ym mis Tachwedd 1981. -- The file consists of some correspondence and details relating to the visit to Wales, by the Russian poet Andrei Voznesensky in November 1981.

Ymweliad awduron o Ffinland / Finish Author's visit, 1978.

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, adroddiadau a chofnodion perthnasol i'r trefniadau go gyfer ag ymweliad awduron o'r Ffindir â Chymru, ynghyd â pheth gwaith dilynol, 1976-1979. -- The file consists of correspondence, reports and minutes relating to arrangements being made for the visit of Finish authors to Wales, as well as some follow up material, 1976-1979.

Results 1 to 20 of 93