Showing 56 results

Archival description
Papurau Marion Eames, file
Print preview View:

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1927, yn cynnwys nodiadau ar sut i ysgrifennu nofel a detholiadau o weithiau llenyddol. = A notebook, 1927, containing notes on the art of writing a novel and extracts from various literary works.

Cerddi,

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o gerddi gan Griffith Williams, [1940]-[1977]. = Manuscript and typescript drafts of poems by Griffith Williams, [1940]-[1977].

Dramâu a storïau byrion,

Drafftiau teipysgrif o ddramâu a storïau byrion gan Griffith Williams, [1940]-[1977], gan gynnwys sgript drama radio, Prelude to Escape, a sgript drama deledu, The Unarmed. = Typescript drafts of dramas and short stories by Griffith Williams, [1940]-[1977], including a radio script entitled Prelude to Escape, and a television drama, The Unarmed.

Wales and Art Today,

Teipysgrif gwaith gan Griffith Williams, anghyhoeddedig yn ôl pob golwg, yn dwyn y teitl Wales and Art Today, [1950x1977]. = Typescript of an apparently unpublished work by Griffith Williams entitled Wales and Art Today, [1950x1977].

Erthyglau,

Torion o'r wasg o erthyglau a ysgrifennwyd gan Griffith Williams, 1954-1977, gan gynnwys ei gyfraniadau rheolaidd i dudalennau celf papur wythnosol Plaid Cymru, Welsh Nation, 1974-1977. = Press cuttings of various articles written by Griffith Williams, 1954-1977, including his regular contributions to the arts pages of Plaid Cymru's weekly newspaper, Welsh Nation, 1974-1977.

Wheels of Freedom,

Drafftiau nofel anghyhoeddedig gan Griffith Williams yn dwyn y teitl Wheels of Freedom, 1976, ynghyd ag adroddiad gan gwmni cyhoeddi yn esbonio'r penderfyniad i beidio â chyhoeddi'r gwaith. = Drafts of an unpublished novel by Griffith Williams entitled Wheels of Feedom, 1976, including a report by a publishing company explaining the decision not to publish the work.

Cerddi,

Cerddi, 1933-[1990], gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth a'r gerdd 'The Caprice', gan Marion Eames, 1933-1957; ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill, gan gynnwys copïau llawysgrif o 'A'u gwelo, tros ei galon...' a 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' gan T. Gwynn Jones, a 'Deuoedd' gan Wil Ifan; ambell gerdd gan J. Lewis Jones; a dwy gerdd deyrnged i Marion Eames. = Poems, 1933-[1990], including a volume of poetry and a copy of 'The Caprice' by Marion Eames, 1933-1957; together with copies of poems by others, including manuscript copies of 'A'u gwelo, tros ei galon...' and 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' by T. Gwynn Jones, and 'Deuoedd' by Wil Ifan; copies of poems by J. Lewis Jones; and two tributes to Marion Eames.

Y Tir Tywyll,

Papurau'n ymwneud â'r nofel, Y Tir Tywyll, 1988, gan gynnwys drafftiau o'r gwaith, copi o'r cyfieithiad Saeseng, a dau adroddiad yn trafod a ddylid cyhoeddi'r gwaith. = Papers relating to the novel Y Tir Tywyll, 1988, including drafts, a copy of the English translation, and two reports discussing whether the text should be published.

The Golden Road,

Teipysgrif o'r nofel, The Golden Road, [1990], cyfieithiad Saesneg o nofel Gymraeg wreiddiol Marion Eames, I Hela Cnau (1972), gan gynnwys dau adroddiad yn argymell y gwaith ar gyfer grant cyhoeddi. = Typescript of the novel The Golden Road, [1990], an English translation of the original Welsh novel by Marion Eames, I Hela Cnau (1972), including two reports recommending the work for a publishing grant.

Rhed Alysia!,

Drafftiau llawysgrif o'r nofel Rhed Alysia!, [1990x2007]. = Manuscript drafts of the novel Rhed Alysia!, [1990x2007].

Y Rhyfel Cartref,

Drafftiau o'r ddrama Y Rhyfel Cartref, 1992, a ysgrifennwyd gan Marion Eames fel rhan o gyfres i ysgolion uwchradd yng Nghymru yn canolbwyntio ar hanes Cymru a Phrydain yn ystod y cyfnod modern cynnar. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o'r gwaith a pheth gohebiaeth rhwng Marion Eames a Gwasanaeth Darlledu Addysgol y BBC yn trafod gofynion y ddrama. = Drafts of Y Rhyfel Cartref, 1992, a drama by Marion Eames written as part of a series for secondary schools in Wales on the history of Wales and Britain during the early modern period. The file also includes an English translation of the text and correspondence between Marion Eames and the BBC's Educational Broadcasting Service discussing the drama's requirements.

Sgriptiau hunan-gofiannol,

Sgriptiau hunan-gofiannol gan Marion Eames, yn cynnwys drafftiau ar gyfer y rhaglenni 'Dylanwadau', 1992, a 'Portreadau', 1998. = Autobiographical scripts by Marion Eames, comprising drafts for the programmes 'Dylanwadau', 1992, and 'Portreadau', 1998.

Cyfieithiadau emynau,

Cyfieithiadau emynau gan Marion Eames, 1994-2001, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg, 1994, o emyn gan Dietrich Bonhoeffer; cyfieithiad Cymraeg o emyn y Parch. Andrew Pratt a luniwyd yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn Efrog Newydd, Medi 2001; a cyfieithiad Cymraeg o emyn diolchgarwch Doreen Newport. = Translations of various hymns by Marion Eames, 1994-2001, including a Welsh translation, 1994, of a hymn by Dietrich Bonhoeffer; a Welsh translation of a hymn by the Rev. Andrew Pratt drafted following the terrorist attacks in New York, September 2001; and a Welsh translation of a thanksgiving hymn by Doreen Newport.

Deryn Corff,

Sgript Deryn Corff, 1998, a ysgrifennwyd gan Marion Eames i'w ddefnyddio yng nghystadleuaeth deialog agored Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr, 1998. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o sgriptiau T. James Jones ac Eigra Lewis Roberts a ddefnyddiwyd yn yr un gystadleuaeth. = A script entitled Deryn Corff, 1998, written by Marion Eames for use in the open dialogue competition at the National Eisteddfod of Wales, Bro Ogwr, 1998. The file also includes copies of scripts by T. James Jones and Eigra Lewis Roberts used in the same competition.

Duwies y Llyn,

Papurau'n ymwneud â Duwies y Llyn, 1999, gan gynnwys drafftiau o'r gwaith, rhai llythyron yn trafod newidiadau posibl, a llyfr nodiadau yn cynnwys peth gwaith ymchwil ac yn dwyn y teitl gwreiddiol, Y Tiriadon. = Papers relating to Duwies y Llyn, 1999, including drafts, letters discussing possible changes to the text, and a notebook containing some research notes and bearing the original title, Y Tiriadon.

Baner Beca,

Drafftiau anghyflawn o'r stori fer Baner Beca, [2002x2004], ynghyd â chopi cyflawn o'r cyfieithiad Saesneg. = Various incomplete drafts of the short story Baner Beca, [2002x2004], together with a complete copy of the English translation.

Sgriptiau gan eraill,

Sgriptiau gan unigolion eraill, 1971-[1980], gan gynnwys sgript The Voice Across the Valley gan John Rowe, a detholiad o The Riddle of Gipsy Quarry gan Catrin Rowe. = Scripts by other individuals, 1971-[1980], including a copy of The Voice Across the Valley by John Rowe, and an extract of The Riddle of Gipsy Quarry by Catrin Rowe.

Storïau byrion,

Storïau byrion cyhoeddedig ac anghyhoeddedig gan Marion Eames, 1947-[2000], gan gynnwys Y Ffordd i'r Gorffennol (1975); The Witch of Penthorpe, a ysgrifennodd ar y cyd gyda'i gŵr, Griffith Williams; a llawysgrif Castle Make Believe (1947), stori a ysgrifennodd i'w nai ac sy'n cynnwys darluniau wedi eu peintio ganddi. = Published and unpublished short stories by Marion Eames, 1947-[2000], including Y Ffordd i'r Gorffennol (1975); The Witch of Penthorpe, co-written by Marion Eames and her husband Griffith Williams; and Castle Makes Believe (1947), a manuscript short story for her nephew containing illustrations painted by Marion Eames herself.

Sgriptiau,

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o sgriptiau amrywiol gan Marion Eames, [1960]-[2000], gan gynnwys sgript a ysgrifennodd ar y cyd gyda'i gŵr Griffith Williams, yn dwyn y teitl Betsy: The Story of the Balaclava Nurse; a chopi o sgript Nocturne, yn cynnwys rhai nodiadau gan Marion Eames. = Manuscript and typescript drafts of various scripts by Marion Eames, [1960]-[2000], including a script co-written by herself and her husband Griffith Williams, entitled Betsy: The Story of the Balaclava Nurse; and a copy of Nocturne, bearing marginal notes by Marion Eames.

Y Rhandir Mwyn,

Papurau, [1972]-1976, yn ymwneud â'r nofel, Y Rhandir Mwyn (1972), a'r cyfieithiad, The Fair Wilderness (1976), gan gynnwys amlinelliad o gefndir hanesyddol y nofel a disgrifiadau o'r cymeriadau yn y Gymraeg a'r Saesneg; ynghyd â chopi o siaced lwch The Fair Wilderness. Mae rhai papurau o fewn y ffeil yn dwyn teitl gwreiddiol y cyfieithiad, The Fair Country. = Papers, [1972]-1976, relating to the novel Y Rhandir Mwyn (1972), and its translation, The Fair Wilderness (1976), including an outline of the novel's historical background and character biographies in Welsh and English; and a copy of the dust jacket of The Fair Wilderness. Some papers within the file bear the translation's original title, The Fair Country.

Results 1 to 20 of 56