Showing 38 results

Archival description
Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers
Print preview View:

Penddelwau = Busts

Deunydd yn ymwneud â phenddelwau o enwogion Cymreig a gomisiynwyd oddi wrth ac a grewyd gan John Meirion Morris, y gwrthrychau'n cynnwys y chwaraewr rygbi Ray Gravell, y naturiaethwr, botanegydd, ieithydd, daearyddwr a'r hynafiaethydd Edward Lhuyd, yr addysgwr Ifor Owen, y mynach a'r offeiriad Sant John Roberts, y bardd, hynafiaethydd a'r casglwr Iolo Morganwg (Edward Williams), a'r beirdd Dafydd ap Gwilym, R. S. Thomas, Gwenallt (D. Gwenallt Jones) a Waldo Williams. Mae'r deunydd yn cynnwys gohebiaeth, drafft-ddarluniau, amcangyfrifon, ffotograffau a llungopïau o ddeunydd printiedig. Ymhlith y gohebwyr y mae'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd, y caligraffydd, cerflunydd ac athro Ieuan Rees a'r ysgolhaig a'r gwleidydd cenedlaetholgar Edward (Tedi) Millward.
= Material relating to busts of famous Welsh people commissioned from and created by John Meirion Morris, the subjects including the rugby player Ray Gravell (1951-2007), the naturalist, botanist, linguist, geographer and antiquarian Edward Lhuyd (1660-1709), the educator Ifor Owen, the monk and priest Saint John Roberts, the poet, antiquarian and collector Iolo Morganwg (Edward Williams), and the poets Dafydd ap Gwilym, R. S. Thomas, Gwenallt (D. Gwenallt Jones) and Waldo Williams. The material includes correspondence, draft drawings, estimates, photographs and photocopies of printed matter. The correspondents include the politician and barrister Elfyn Llwyd, the calligrapher, sculptor and teacher Ieuan Rees, and the nationalist academic and politician Edward (Tedi) Millward.

Celtica

Deunydd yn ymwneud â chomisiwn John Meirion Morris i greu crochan ar gyfer arddangosfa am fyd y Celtiaid yng Nghanolfan Celtica (safle'r Plas), Machynlleth. = Material relating to John Meirion Morris' commission to create a cauldron for an exhibition about the world of the Celts at the Celtica Centre (on the site of the Plas), Machynlleth.

Erthyglau = Articles

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau gan John Meirion Morris; llungopïau, allbrintiau ac erthyglau a nodiadau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith; ac erthyglau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Ceir rhestrau o'r erthyglau, ynghyd â manylion am y cylchgronau, llyfrau ac yn y blaen lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris.
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for articles by John Meirion Morris; photocopies, printouts and original articles and notes taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work; and articles by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned a period of fifty years. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals, books, etc in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Erthyglau gan John Meirion Morris = Articles by John Meirion Morris

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau gan John Meirion Morris. Ceir rhestr o'r erthyglau, ynghyd â theitlau a rhifynnau'r cylchgronau lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Mae'r rhestr cyhoeddiadau'n cynnwys Llais Llyfrau, Taliesin, Barn, Golwg a'r Faner Newydd.
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for articles by John Meirion Morris. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals, books, etc in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. The list of publications includes Llais Llyfrau, Taliesin, Barn, Golwg and Y Faner Newydd.

Erthyglau gan John Meirion Morris am ei waith ei hun = Articles by John Meirion Morris about his own work

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau gan John Meirion Morris yn ymwneud â'i waith celf ei hunan. Yn yr erthygl sy'n dwyn y teitl 'Imagination and The Magic of Tradition', ceir cyfeiriad at y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd.
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for articles by John Meirion Morris relating to his own art work. In the article entitled 'Imagination and The Magic of Tradition', there is a reference to the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years.

Erthyglau gan John Meirion Morris ar gelfyddyd ac addysg yn gyffredinol = Articles by John Meirion Morris on art and educaton in general

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau mwy cyffredinol gan John Meirion Morris ar themâu celfyddyd ac addysg, nifer o'r allbrintiau wedi'u arnodi/cywiro yn llaw John Meirion Morris. Mae un eitem yn cynnwys llythyr atodedig o ganmoliaeth i erthygl John Meirion Morris yn rhifyn Chwefror 1973 o'r cylchgrawn Bulletin oddi wrth Archesgob Cymru ar y pryd, Gwilym Williams. Ynghyd ag eitem yn cynnwys datganiad ynghylch cynnwys a strwythur Cwrs Sail Adran Gelf y brifysgol lle'r oedd John Meirion Morris yn ddarlithydd ar y pryd (eitem yn annyddiedig, felly nid oes modd cyfeirio'n bendant at unrhyw sefydliad arbennig) (oherwydd ei chyflwr eitha bregus, cedwir yr eitem hon mewn amlen wedi'i nodi).
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for more general articles by John Meirion Morris on art and education, many of the printouts including annotations/corrections in the hand of John Meirion Morris. One item includes an attached letter of praise for John Meirion Morris' article in the February 1973 edition of the periodical Bulletin from the then Archbishop of Wales, Gwilym Williams. Together with an item containing a statement relating to the content and structure of the Art Department Foundation Course of the university at which John Meirion Morris was then lecturing (item undated so no means of definite identification of the establishment) (due to its somewhat fragile condition, this item is kept in a marked envelope).

Erthyglau am John Meirion Morris = Articles about John Meirion Morris

Llungopïau, allbrintiau ac erthyglau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith. Ceir rhestr o'r erthyglau, ynghyd â manylion am y cylchgronau, llyfrau ac yn y blaen lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Mae'r rhestr cyhoeddiadau'n cynnwys Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, Y Cymro a'r Faner Newydd.
= Photocopies, printouts and original articles taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals and books in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. The list of publications includes Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, Y Cymro and Y Faner Newydd.

Erthyglau am John Meirion Morris = Articles about John Meirion Morris

Llungopïau, allbrintiau ac erthyglau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith, ynghyd ag adolygiadau o'r cyfrolau The Celtic Vision gan John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) a John Meirion Morris: artist gan Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) a nodiadau ar John Meirion Morris fel rhan o gynnwys rhaglen arddangosfa gelf. Ceir rhestr o'r erthyglau, ynghyd â manylion am gylchgronau a llyfrau lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, y Western Mail, Y Cymro a'r Faner Newydd. Mae dwy eitem yn cynnwys sylwadau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd.
= Photocopies, printouts and original articles taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work, together with reviews of the publications The Celtic Vision by John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) and John Meirion Morris: artist by Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) and notes on John Meirion Morris as part of an art exhibition programme. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals and books in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. The publications include Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, the Western Mail, Y Cymro and Y Faner Newydd. Two items include observations by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years.

Erthyglau gan Peter Abbs = Articles by Peter Abbs

Allbrintiau a llungopïau o erthyglau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Mae'r casgliad yn cynnwys un erthygl ar gerflunwaith John Meirion Morris. = Printouts and photocopies of articles by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years. One item contains an article on John Meirion Morris' sculpture work.

Darlithoedd = Lectures

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd a draddodwyd gan John Meirion Morris ym Mhrifysgol Sussex, 1994, ac yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, 2006. = Material relating to lectures given by John Meirion Morris at Sussex University, 1994, and at the Morlan centre, Aberystwyth, 2006.

Darlithoedd gan John Meirion Morris = Lectures by John Meirion Morris

Rhaglen brintiedig ar gyfer seminarau agored i'w cynnal ym Mhrifysgol Sussex, 25 Ionawr - 15 Chwefror 1994, a oedd yn cynnwys manylion am ddarlith gan John Meirion Morris ac am arddangosfa o'i waith; a nodiadau ar gyfer darlith a draddodwyd gan John Meirion Morris yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, 23 Mehefin 2006, gyda nodyn ar wahân yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Y ddwy eitem wedi'u arnodi yn llaw John Meirion Morris.
= Printed programme with details of open seminars to be held at Sussex University, 25 January - 15 February 1994, which included a lecture by John Meirion Morris and an exhibition of his work; and notes for a lecture given by John Meirion Morris at the Morlan centre, Abersystwyth, 23 June 2006, with a separate note in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. Both items are annotated in the hand of John Meirion Morris.

The Celtic Vision

Adolygiad, 10 Chwefror 2003, o gyfrol arloesol John Meirion Morris The Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); a thaleb breindal Y Lolfa ar gyfer gwerthiant The Celtic Vision yn ystod y cyfnod 1 Hydref 2002 hyd 31 Mawrth 2003. = Review, 10 February 2003, of John Meirion Morris' groundbreaking volume The Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); and royalties receipt from Y Lolfa printing press for sales of The Celtic Vision during the period 1 October 2002 to 31 March 2003.

Y cyfryngau = The media

Deunydd yn ymwneud â chyfraniad John Meirion Morris i'r wahanol gyfryngau, gan gynnwys: sgript cyfweliad teledu, 27 Ebrill 1962; nodyn talu, 20 Gorffennaf 1992, oddi wrth S4C ar gyfer treuliau; taleb, 11 Medi 1992, ar gyfer erthygl gan John Meirion Morris a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg; sgript cyfweliad gyda Shirley Klippel, Mawrth 2009; sgript ffilm annyddiedig 'ar gyfer hybu gwerthfawrogiad a beirniadaeth ar gelfyddyd', sy'n cynnwys sylwadau John Meirion Morris am ei waith.
= Material relating to John Meirion Morris' contribution to various forms of media, comprising: television interview script, 27 April 1962; expenses payment notification from S4C, 20 July 1992; receipt, 11 September 1992, for an article by John Meirion Morris published in the periodical Golwg; script of interview with Shirley Klippel, March 2009; undated film script 'to promote the appreciation and critique of art', which includes observations on his own work by John Meirion Morris.

Results 1 to 20 of 38