- 1
- Cyfres / Series
- [1867x1896], 1904, 1924, [1960x1967], [1972x1975], [2010x2018]
Deunydd yn ymwneud a'r Cambrian Gallery, Lerpwl, a sefydlwyd gan John Thomas ym 1867.
Deunydd yn ymwneud a'r Cambrian Gallery, Lerpwl, a sefydlwyd gan John Thomas ym 1867.
Deunydd yn ymwneud a'r Cambrian Gallery, Lerpwl, gan gynnwys llyfr nodiadau yn llaw John Thomas yn olrhain hanes yr oriel; llyfryn printiedig a gyhoeddwyd gan y Cambrian Gallery yn hysbysebu argraffiadau o cartes-de-visite dan wahanol benawdau (beirdd, llenorion a chantorion, cenhadon a gweinidogion yn ôl eu henwad); catalog printiedig yn hysbysebu ocsiwn o ddodrefn y Cambrian Gallery; nodiadau ar hanes y Cambrian Gallery mewn llaw diweddarach; torion papur newydd yn ymwneud â bywyd a gwaith John Thomas; a llungopïau o ffotograffau o John Thomas ac o rai o'r portreadau carte-de-visite ac in memoriam a gyhoeddwyd gan y Cambrian Gallery.
Nodiadau yn llaw John Thomas yn olrhain ei fynych deithiau ledled Cymru.
Nodiadau yn llaw John Thomas yn olrhain ei fynych deithiau ledled Cymru, sy'n cynnwys disgrifiadau byw o'r trefi a phentrefi a'u trigolion.
Nodiadau yn llaw John Thomas ar rai o enwogion Cymru, yn bennaf o'r meysydd diwinyddol a llenyddol.
Nodiadau yn llaw John Thomas ar rai o enwogion Cymru, yn bennaf o'r meysydd diwinyddol a llenyddol, gan gynnwys y bardd a'r athro Ebenezer Thomas ('Eben Fardd') (1802-1863), y bardd a'r anterliwtydd Thomas Edwards ('Twm o'r Nant') (1739-1810) a Howel Harris (1714-1773), un o arweinyddion y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.
Deunydd amrywiol yn ymwneud â John Thomas a'i waith.
Deunydd amrywiol yn ymwneud â John Thomas a'i waith, gan gynnwys llythyr at John Thomas dyddiedig 5 Hydref 1899; rhestr yn llaw John Thomas o'r llyfrau yn ei feddiant, y rhan helaeth ohonynt o natur ddiwinyddol a llenyddol; bras nodiadau o feddargraffiadau ac englynion yn llaw John Thomas; llythyrau oddi wrth Alistair Crawford, darlithydd yn Adran Gelf Prifysgol Cymru Aberystwyth, [?at aelodau o deulu John Thomas] ynghylch arddangosfa yn ymdrin â bywyd a gwaith John Thomas; llungopïau o ffotograffau o John Thomas ac o rai o'r portreadau carte-de-visite ac in memoriam a wnaethpwyd ganddo; a dwy goeden deulu yn dangos cysylltiadau teuluol John Thomas o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Papurau John Thomas (Ffotograffydd)
Papurau'r ffotograffydd John Thomas, Lerpwl, gan gynnwys atgofion teithio a nodiadau John Thomas ar hanes y Cambrian Gallery ac am enwogion Cymreig; deunydd print yn gysylltiedig â'r oriel; a deunydd amrywiol mwy diweddar yn ymwneud â John Thomas a'i fusnes ffotograffiaeth.
Thomas, John, 1838-1905